Agor Lôn yr Adar yn Swyddogol mewn Dathliad Cymunedol

Agor Pont Lôn yr Adar yn Swyddogol
Ddydd Sul 13 Medi, daeth aelodau o gymuned Glan Conwy ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol Lôn yr Adar.
Mae’r llwybr a'r bont newydd yn rhan o’r llwybr Teithio Llesol a ariannwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Bro, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd wedi cyflawni’r gwaith. Drwy wella’r cysylltiadau ar gyfer cerdded a beicio, lleihau’r angen i ddefnyddio cylchfan brysur y Black Cat a hwyluso mynediad at gyfleusterau lleol, bwriedir creu cymuned sy’n iachach, yn fwy diogel ac yn fwy cysylltiedig.
Bu Côr Cymuned Glan Conwy “Cor Pobl Llan” ac Alistair James yn diddanu’r gynulleidfa cyn cynnal y seremoni swyddogol i dorri’r rhuban, ac eto ar y diwedd.
Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd: "Mae Lôn yr Adar wedi’i chodi er budd y gymuned leol. Cafodd plant lleol gyfle i gymryd rhan wrth enwi’r bont ac mae hynny’n beth braf, ac rwy’n awyddus i weld y gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i genedlaethau’r dyfodol.”
Ar ôl y seremoni, cafodd pawb gyfle i gerdded ar y llwybr a chael sgwrs â’r tîm a gyflawnodd y prosiect.
Meddai Claire Hughes AS: “Roedd hi’n bleser bod yn bresennol ar gyfer agoriad swyddogol y bont a gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y bydd yn ei wneud. Mae’r buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu pwynt cyswllt pwysig i’w gwneud yn haws a mwy diogel i bobl o bob oed deithio i Gyffordd Llandudno ac ymlaen i Gonwy a thu hwnt. P'un a ydynt yn mynd i'r gwaith, yr ysgol, y siop neu’r sinema – byddant yn gallu gadael y car adref.”
Meddai’r Cynghorydd Sharon Doleman: “Roedd hi’n hyfryd ymuno â phawb yn agoriad swyddogol Lôn yr Adar. Mae hyn wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd, ac mae’n rhoi balchder mawr imi ei weld yn digwydd o’r diwedd. Mae’n dyst i holl waith caled ac ymroddiad pawb a fu’n rhan o’r prosiect, a bydd cenedlaethau o bobl yn elwa yn y dyfodol.”
Meddai Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd ac Isadeiledd: “Mae’r prosiect yma’n creu ffordd ddiogel, braf i bobl gerdded a mynd ar gefn beic, ac yn tynnu pwysau oddi ar ambell i gyffordd brysur yn yr ardal. Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd ar y prosiect, a phawb yn y gymuned sydd wedi cyfrannu hefyd.”
Mae’r llwybr bellach ar agor i’r cyhoedd.
Wedi ei bostio ar 14/09/2026