Gweinidog yn nodi agoriad swyddogol Canolfan Asesu Plant

Agoriad swyddogol Bwthyn y Ddôl
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS yn dadorchuddio plac i nodi agoriad swyddogol Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl.
Mae Bwthyn y Ddôl yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), sy'n darparu cefnogaeth i blant ag anghenion cymhleth a'u teuluoedd.
Mae’r cyfleuster yn cynnwys uned asesu bwrpasol i gynnal ymyrraeth a therapi, ynghyd â llety i’r plant gael aros yno.
Croesawyd y Gweinidog gan gynrychiolwyr o'r sefydliadau partner ac ymunodd â thîm ehangach y prosiect yng Nghoed Pella i ddysgu mwy am y datblygiad.
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Roedd yn bleser gen i agor Bwthyn y Ddôl yn swyddogol heddiw. Mae'n enghraifft wych o sut rydyn ni am drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru, gan gadw plant o fewn eu cymunedau ac yn agos at eu rhwydweithiau cefnogi.”
“Mae'n ysbrydoledig gweld sut y bu partneriaid o Gonwy, Sir Ddinbych a'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio, ochr yn ochr â gwasanaethau lleol, i greu rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a'u teuluoedd."
Dywedodd y Cyng Kay Redhead, Aelod Cabinet Plant a Diogelu Conwy, “Roeddwn i wrth fy modd yn cael croesawu’r Gweinidog heddiw. Rydym yn falch iawn o'r gwaith sy'n digwydd ym Mwthyn y Ddôl i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Ni ellir tanamcangyfrif y fantais o gael cyfleuster pwrpasol ar gyfer y gwasanaethau hyn, ac rwy'n falch bod model mor arloesol, gan weithio gyda phartneriaid o Sir Ddinbych ac Iechyd, yn mynd o nerth i nerth.”
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd gyda Chyngor Sir Ddinbych, “Rwyf mor falch o weld y cyfleuster gwerthfawr hwn ar agor. Bydd yn cael effaith mor gadarnhaol yn yr ardal ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r plant a’r teuluoedd hynny sy’n dibynnu ar gymorth cymhleth. Datblygwyd y model gofal hwn i ganolbwyntio ar anghenion penodol plant a phobl ifanc gan ddefnyddio arbenigedd tîm amlddisgyblaethol ac mae’n enghraifft ardderchog o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu BIPBC, Tehmeena Ajmal: “Rwyf wrth fy modd bod y Gweinidog wedi agor yr adnodd angenrheidiol hwn yn swyddogol ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad i gydweithio â'n partneriaid awdurdod lleol ac eraill er budd ein cymunedau.
“Rydym ym mawr obeithio y bydd y gwaith rydym yn rhan ohono ym Mwthyn y Ddôl yn rhoi’r cyfleoedd gorau i deuluoedd aros gyda’i gilydd ac yn sicrhau bod plant diamddiffyn yn cael eu cefnogi’n llawn, yn agosach at adref a’u rhwydweithiau cefnogaeth.”
Cafodd y prosiect ei ariannu drwy Gronfa Gofal Integredig a Chronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru.
Wynne Construction Limited o Fodelwyddan oedd y contractwr.
Agorodd Bwthyn y Ddôl ei ddrysau i ddefnyddwyr gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2024 a dyma’r cyfleuster cyntaf o'i fath yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Mae’r llun yn dangos [o’r chwith]: Y Cyng. Elen Heaton, Cyngor Sir Ddinbych; Y Cyng. Kay Redhead, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol; Y Cyng.Dilwyn Morgan, Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Wedi ei bostio ar 05/02/2026