Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dros 70 o sefydliadau i arddangos cyfleoedd cyflogaeth yn Ffair Swyddi Conwy

Dros 70 o sefydliadau i arddangos cyfleoedd cyflogaeth yn Ffair Swyddi Conwy


Summary (optional)
start content

Dros 70 o sefydliadau i arddangos cyfleoedd cyflogaeth yn Ffair Swyddi Conwy

Bydd dros 70 o sefydliadau o bob rhan o Gymru a’r Gogledd Orllewin yn dod at ei gilydd i arddangos cyfleoedd cyflogaeth mewn digwyddiad gyrfaoedd sy’n dychwelyd.

Mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a gyda chefnogaeth Creu Menter, Cymorth i Fusnesau Conwy a Chymru’n Gweithio, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, bydd Ffair Swyddi poblogaidd Conwy yn cael ei chynnal ddydd Iau 22 Chwefror o 1pm tan 5pm yn Yr Ysgubor, Canolfan Ddigwyddiadau Eirias, Bae Colwyn.

Cyn y diwrnod mawr, y mae disgwyl iddo ddenu mwy na 500 o bobl o bob oed, bydd gweithdy byw gyda mentoriaid a hyfforddwyr yn y Ganolfan Byd Gwaith yng Nghanolfan Siopa Bayview y dref.

Bydd yn cael ei gynnal y dydd Mawrth hwn (6 Chwefror) o 12.30pm - 1.30pm, a bydd yn cynnwys awgrymiadau a chyngor ar amrywiaeth eang o bynciau, o sgiliau CV i dechnegau cyfweliad ac arweiniad ar wneud cais ar gyfer eich swydd ddlfrydol. Bydd gweithdai byw ychwanegol hefyd yn cael eu cynnal rhwng nawr a’r digwyddiad.

Dywedodd Libby Duo, Rheolwr Canolbwynt Cyflogaeth Conwy: “Bydd y sesiynau hyn cyn y ffair swyddi yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd eisiau bod yn bresennol wella eu sgiliau cyn cyfarfod â’r darpar gyflogwyr a fydd yno ar y diwrnod.

“Maen nhw’n cynrychioli llawer o wahanol ddiwydiannau, a bydd rhai hyd yn oed yn cynnal cyfweliadau a chyfarfod ag ymgeiswyr posib ar y diwrnod felly gall paratoi’n llawn fod yn fuddiol o bob ochr.”

Ychwanegodd Jane Cook, Rheolwr Cyflogaeth a Phartneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Conwy: “Unwaith eto mae gennym ni rai o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat gorau’r rhanbarth – a thu hwnt – yn arddangos yn y ffair swyddi a gyrfaoedd sydd wedi datblygu i fod yr un fwyaf o’i math yng Ngogledd Cymru.

“Yn ogystal â chwilio am weithwyr newydd, byddan nhw’n arddangos yr hyn maen nhw’n ei wneud a pham y dylai pobl weithio iddynt, felly mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad defnyddiol iawn i bawb sy’n bresennol.

“Fel y llynedd, rydym ni’n gobeithio y bydd yn dod â phobl at ei gilydd ac yn dangos pa yrfaoedd anhygoel sydd ar gael a’r ffaith bod galw mewn sawl sector am weithwyr newydd.”

Ymhlith y busnesau, elusennau, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus fydd yn arddangos bydd Canolfan Yrfaoedd y Fyddin Brydeinig, Thorncliffe Building Supplies, HB Leisure, HMP Berwyn, Alpine Travel, Supertemps, Maximus UK, Zip World, Prime Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, GYG Karting, Excell Supply, ALG Security, The Imperial Hotel yn Llandudno, EvadX, Airbus, yr Awyrlu Brenhinol, Hosbis Sant Cyndeyrn a llawer mwy.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw eich lle ar un o’r gweithdai byw, anfonwch e-bost at ccc@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575578.

 

Wedi ei bostio ar 02/02/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content