Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Galwad o'r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Galwad o'r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol


Summary (optional)
start content

Galwad o'r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, wedi ei gynrychioli gan y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol lleol, Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (NWAS), yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ystyried mabwysiadu.

Ers ffurfio'r gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn 2014, mae wedi cefnogi nifer o siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu trwy sicrhau bod deunyddiau a hyfforddiant ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg fel y gall pawb dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd stondin y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sesiynau amser stori, creu blancedi, ac addurno cacennau a bisgedi.

Yn anelu at sbarduno sgyrsiau am y broses fabwysiadu, maent am herio camsyniadau ynghylch gwneud ymholiadau yn y Gymraeg - ac annog mwy o bobl i gymryd y cam i gefnogi'r 250 o blant sy'n aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn 2017, gosododd Llywodraeth Cymru darged strategol i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ledled gogledd Cymru, mae bron i hanner y boblogaeth yn medru rhywfaint o Gymraeg. Yn ôl ystadegau diweddaraf Dangosydd yr Iaith Gymraeg, roedd 17 y cant o oedolion yn Wrecsam yn siarad Cymraeg gydag’r 1 o bob 5 arall yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg.

Dywedodd Mihaela Bucutea, rheolwr tîm gweithredol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru:

“Fel gwasanaeth rhanbarthol sy’n rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i bob teulu sydd ei angen - gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, bob cam o’u taith. Os hoffech chi ragor o wybodaeth, neu gael sgwrs, byddem yn eich annog i gysylltu a gwneud ymholiad.”

Dolen: Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Wedi ei bostio ar 04/08/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content