Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres

Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres


Summary (optional)
start content

Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres

Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru

Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru

Mae Gogledd Cymru o dan rybudd tywydd Oren ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r tymheredd barhau i fod yn uchel drwy’r wythnos.

Mae gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, iechyd a phartneriaid eraill yn cydweithio fel rhan o Fforwm Gwydnwch Lleol y Gogledd i fonitro'r sefyllfa ar draws y rhanbarth ac i ymateb i unrhyw broblemau.

Anogir trigolion ac ymwelwyr â Gogledd Cymru i gymryd ychydig o gamau ychwanegol i gadw’n ddiogel yn y gwres.

  • Cadwch lygad ar eraill
  • Chwiliwch am gysgod rhwng 11am a 3pm
  • Gwisgwch eli haul SPF 30+
  • Gwisgwch het, sbectol haul a dillad llac
  • Yfwch ddigon o ddŵr

Lleihau peryglon tân

  • Peidiwch â dechrau tanau 
  • Paciwch bicnic, nid barbeciw
  • Gwaredwch sigarennau yn ddiogel
  • Ewch â’ch sbwriel adref efo chi

Cadw’n ddiogel o amgylch dŵr

  • Gall dŵr fod yn beryglus o oer er y tywydd poeth. Osgowch neidio i ddŵr agored i oeri - cofiwch fynd i mewn i'r dŵr yn araf i leihau'r risg o sioc dŵr oer.
  • Os ewch chi i drafferth yn y dŵr, cofiwch 'Arnofiwch i Aros yn Fyw'.
  • Os gwelwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr eich hun. Ffoniwch 999.

Teithio

  • Meddyliwch. Ydi eich taith yn angenrheidiol? Allwch chi deithio ar adeg wahanol o'r dydd neu ei ohirio am ddiwrnod arall? 
  • Os byddwch chi'n teithio ar y ffordd, ewch â digon o ddŵr gyda chi, cynlluniwch eich seibiannau, disgwyliwch rywfaint o aflonyddwch a gofalwch am eich gilydd.
  • Os byddwch chi'n teithio ar gludiant cyhoeddus, yfwch ddigon a chaniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith, mae’n bosib y bydd y tywydd poeth yn tarfu ar y gwasanaethau
  • Dim ond lle caniateir gwersylla y dylid gwneud hynny

Am y cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ffynonellau dibynadwy ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein.

Am fwy o wybodaeth am leihau'r risg o dân yn ystod tywydd poeth a sych a chadw'n ddiogel o amgylch dŵr, ewch i Diogelwch yn ystod yr haf - Cadw Chi'n Ddiogel - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor ar gadw'n ddiogel yn ystod y gwres eithafol. Darllenwch Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor i aros yn ddiogel wrth i rybudd tywydd coch gael ei gyhoeddi - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhybuddion y Swyddfa Dywydd: UK weather warnings - Met Office

 

 

Wedi ei bostio ar 24/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content