Ymgyrch Machinize

Safonau Masnach
Mae swyddogion Safonau Masnach, Trwyddedu a Theledu Cylch Caeedig Cyngor Conwy yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Llu’r Ffiniau fel rhan o Ymgyrch Machinize dan arweiniad Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU.
Ddydd Gwener (16/10/26), cafodd sawl eiddo yn Sir Conwy eu harchwilio yn rhan o’r ymgyrch, sy’n targedu busnesau sy’n delio’n bennaf ag arian parod, gan gynnwys siopau fêps/’marchnad fach’, safleoedd golchi ceir, siopau bwyd i fynd, parlyrau tylino a siopau torri gwallt.
Fe wnaeth swyddogion Safonau Masnach Conwy feddiannu tybaco anghyfreithlon a allai fod yn beryglus, ac a oedd wedi’i guddio’n fwriadol.
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio Conwy: “Mae Swyddogion Safonau Masnach, Trwyddedu a Theledu Cylch Caeedig Conwy yn ymroi i amddiffyn y cyhoedd rhag nwyddau peryglus, sicrhau diogelwch ein cymuned, a darparu amgylchedd masnachu teg i bob busnes ledled y Sir.”
Fe wnaeth cydweithwyr o’r asiantaeth Mewnfudo arestio tri o bobl. Aeth swyddogion yr Heddlu, Mewnfudo a’r Gwasanaeth Tân i’r afael â nifer o faterion eraill ac mae ymholiadau’n parhau.
I roi gwybod am drosedd, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555111 Crimestoppers in Wales | Crimestoppers
Wedi ei bostio ar 19/10/2026