Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canolfannau Addysg Awyr Agored yn dathlu 60 mlynedd

Canolfannau Addysg Awyr Agored yn dathlu 60 mlynedd


Summary (optional)
start content

Canolfannau Addysg Awyr Agored yn dathlu 60 mlynedd

Nant BH 4

Beicio mynydd

Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu 60 mlynedd o addysg awyr agored ddydd Sadwrn (10/10/26), gan nodi carreg filltir i Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Cymru a'i ddwy ganolfan breswyl yn Nant Bwlch yr Haearn (Nant BH) a Phentrellyncymer.

Mynychwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nant BH ger Llanrwst ddydd Sadwrn, gan aelodau o staff blaenorol a phresennol, yn ogystal â chyn-gyfranogwyr sydd wedi elwa ar yr amrywiaeth o weithgareddau a gynigir gan y ddwy ganolfan dros y blynyddoedd.

Rheolir y Canolfannau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Maent yn darparu addysg awyr agored a phrofiadau preswyl o ansawdd uchel drwy ystod o weithgareddau sydd ar gael yn yr awyr agored i bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru.

Cafodd hen adeilad yr ysgol yn Nant BH, a oedd yn arfer gwasanaethu'r gymuned fwyngloddio leol, ei addasu at ddibenion newydd, ac mae estyniadau wedi'u gwneud iddo dros y degawdau. Bellach, mae cyfleusterau'r ganolfan yn cael eu canmol gan y rhai sy'n mynychu ystod eang o gyrsiau preswyl ar gyfer grwpiau ysgolion, cyrsiau dydd rheolaidd i grwpiau ag anghenion penodol a gwaith atgyfeirio gyda theuluoedd.

Mae Canolfan Pentrellyncymer ger Cerrigydrudion wedi parhau i ddatblygu cyrsiau preswyl i ysgolion gydag ystod o weithgareddau cyffrous gan gynnwys canŵio ar Lyn Brenig a beicio mynydd.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Conwy dros Addysg, “Rydym yn falch bod y ddwy ganolfan hyn yn cynnig cyfoeth o brofiadau i blant o bob un o’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru.  O fwynhau ymweliadau â Nant BH a Phentrellyncymer fy hun yn blentyn, rwy’n deall yn iawn yr effaith gadarnhaol y gall y profiadau hyn eu cael ar bobl ifanc.  Roedd cymaint o bobl a oedd yn bresennol ddydd Sadwrn wedi mynychu cyrsiau preswyl yn y Canolfannau dros y blynyddoedd ac wedi elwa o’r amser yr oeddent wedi’i dreulio yno.”

Mae'r ddwy ganolfan yn gweithredu yn unol â'r safonau uchaf o ran ansawdd a diogelwch, ac maent yn cael eu cydnabod gan achrediad Safon Aur yr AHOEC, y Bathodyn Ansawdd 'Dysgu y Tu Allan i'r Ystafell Ddosbarth' a thrwydded gyfredol yr AALA.

Ochr yn ochr â'r cynnig preswyl i ysgolion, mae'r Gwasanaeth Addysg Awyr Agored yn parhau i ehangu ei waith gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ac yn edrych ymlaen at bartneriaeth newydd gyffrous gyda Phrifysgol Bangor sy'n darparu rhaglenni awyr agored i deuluoedd fel ymyrraeth iechyd.

Cysylltwch â chanolfannau Nant BH neu Pentrellyncymer drwy e-bost: nwoes@conwy.gov.uk neu ffoniwch Ganolfan Nant BH ar 01492 640735.

Nant BH a Pentre — Tudalen Hafan

Wedi ei bostio ar 16/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content