Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Byllau Padlo

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Byllau Padlo


Summary (optional)
start content

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Byllau Padlo

Bydd pedwar pwll padlo Conwy’n ailagor ar gyfer tymor yr haf yn dilyn gwaith adnewyddu fel y cynlluniwyd.

Mae’r Cyngor yn falch fod ganddo bedwar o’r unig bum pwll padlo cyhoeddus am ddim sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru ac mae’n cydnabod eu pwysigrwydd i bobl leol a’r economi ymwelwyr.

Rydym wedi buddsoddi yn helaeth ym mhob un o’n pyllau padlo dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod eu dyfodol yn ddiogel ac rydym ni’n diolch am amynedd ein cymunedau tra oedd y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy, “Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad mawr i ddiogelu dyfodol hirdymor yr asedau cymunedol yma sydd mor boblogaidd.

“Hoffwn sicrhau ein trigolion ein bod wedi ymrwymo i gwblhau’r gwaith ar bob un o’r pedwar safle er budd y rhai sy’n byw yn y sir ac yn ymweld â hi. Er ein bod yn deall siom pobl y llynedd, rydyn ni’n falch ein bod wedi gallu buddsoddi i warchod dyfodol pob un o’r pedwar pwll padlo ac edrychwn ymlaen at eu hagor nhw ar gyfer tymor yr haf 2024.”

 

Cefndir:

Llanfairfechan - mae gwaith wedi’i wneud ar yr uniadau ehangu, y grisiau oedd wedi torri a gwisgo, a’r llwybrau o amgylch y pwll, ac mae’r system cyflenwi dŵr wedi’i gwella hefyd. 

Penmaenmawr - Rydym wedi adnewyddu’r llwybr, yn ogystal â gwneud gwaith ar waelod y pwll a’r deunyddiau oddi tano.

Craig-y-Don - mae gwaith wedi’i wneud ar yr uniadau i sicrhau nad yw’r wyneb newydd yn cael ei effeithio gan hen symudiadau yn y tir a hen holltau.

Llandrillo-yn-Rhos - comisiynodd y Cyngor beiriannydd strwythurol i ymdrin â phroblemau gyda dŵr daear yn treiddio i’r pwll. Cafodd y slabiau concrit diffygiol eu dadorchuddio’n llwyr er mwyn gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol.

Wedi ei bostio ar 06/02/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content