Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Pathways to Planning

Llwybrau at Gynllunio


Summary (optional)
start content

Llwybrau at Gynllunio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o fod yn rhan o raglen beilot arloesol, sy’n recriwtio graddedigion i Adrannau Cynllunio cynghorau lleol. 

Dewiswyd Conwy fel un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru i gymryd rhan yn y rhaglen ‘Llwybrau at Gynllunio’ gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Mae’r cynllun yn cynnig swydd i unigolion sydd wedi graddio’n ddiweddar mewn adrannau cynllunio llywodraeth leol, i ennill cymwysterau a phrofiad gwerthfawr.  

Bydd unigolyn graddedig yn ymuno â Chonwy ar gontract tair blynedd a bydd yn cael profiad ymarferol wrth astudio am radd Meistr wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI). Darparwyd cyllid ar gyfer y rhaglen beilot gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cyn iddynt gael eu cyfweld gan y Cyngor, roedd yr ymgeiswyr eisoes wedi bod drwy broses recriwtio drylwyr, gydag 850 o ymgeiswyr yn gwneud cais am swyddi yng Nghymru a Lloegr.

Meddai’r Cynghorydd Emily Owen, Aelod Cabinet Conwy sydd â chyfrifoldeb am Gynllunio:  “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen beilot hon. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i unigolyn graddedig ennill sgiliau a phrofiad hanfodol, wrth weithio yn ein tîm cynllunio a helpu i fynd i’r afael â’r heriau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau cynllunio.” 

Rhagor o wybodaeth am y cynllun Llwybrau at Gynllunio: Llwybrau at Gynllunio | Cymdeithas Llywodraeth Leol 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i ddatblygu llwybrau gyrfa i weithwyr – boed hynny ar gyfer graddedigion neu unigolion sy’n gadael yr ysgol. Gall y pecynnau gynnwys rhaglenni sy’n cynnig profiad a hyfforddiant, a chyfleoedd i weld llwybr pendant o ran dilyniant gyrfa. I gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ewch i: www.conwy.gov.uk/swyddi

Wedi ei bostio ar 06/11/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content