Wythnos Ymwybyddiaeth Credyd Pensiwn 27 Hydref – 2 Tachwedd

Wythnos Ymwybyddiaeth Credyd Pensiwn
Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Credyd Pensiwn (27 Hydref – 2 Tachwedd) ac mae pawb dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu hannog i wirio a oes hawl ganddynt i gael Credyd Pensiwn.
Nid yw Credyd Pensiwn yn darparu cymorth ariannol yn unig – mae'n datgloi cymorth ychwanegol gwerthfawr a allai arbed cannoedd o bunnoedd i chi bob blwyddyn.
Oeddech chi'n gwybod, os ydych yn cael Credyd Pensiwn, efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer help gyda Gostyngiad Treth y Cyngor i ostwng eich bil neu Fudd-dal Tai os ydych yn rhentu. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael help gyda rhai costau'r GIG, a chostau ynni.
Gwiriwch a ydych yn gymwys trwy ddefnyddio'r gyfrifiannell ar-lein yn www.gov.uk/credyd-pensiwn a gwiriwch pa gymorth ychwanegol y gallech fod â hawl iddo www.gov.uk/credyd-pensiwn/beth-fyddwch-yn-ei-gael
Mae Tîm Hawliau Lles Conwy yn cynnig gwiriadau budd-daliadau yn rhad ac am ddim i weld a ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn ai peidio, a gallant eich helpu i lenwi’r ffurflenni. Cysylltwch â nhw ar 01492 576605.
Wedi ei bostio ar 27/10/2025