Galwch draw i'ch llyfrgell leol i gael croeso cynnes y gaeaf hwn
			
Mae llyfrgelloedd yn cynnig cyfle i eistedd a darllen, sgwrsio â ffrindiau, gweithio, astudio a darganfod amrywiaeth eang o weithgareddau eraill.
		 Mae Gwasanaeth Llyfrgell Conwy yn gwahodd trigolion i dreulio amser ym mannau cynnes, croesawgar a chefnogol ei lyfrgelloedd wrth i’r diwrnodau oeri.
Mae llyfrgelloedd yn cynnig cyfle i eistedd a darllen, sgwrsio â ffrindiau, gweithio, astudio a darganfod amrywiaeth eang o weithgareddau eraill.
Bydd digonedd o weithgareddau yn digwydd mewn llyfrgelloedd fel yr arfer dros y gaeaf hefyd: Amser Stori i blant dan arweiniad staff, sesiynau Darllen ar y Cyd i oedolion lle gallwch ymlacio a chwrdd â phobl newydd.
Gall staff cyfeillgar a phroffesiynol helpu pobl i fynd ar-lein a darganfod sut i gael gafael ar wybodaeth ddefnyddiol.
Mae amrywiaeth o adnoddau eraill ar gael i’w defnyddio a’u benthyca, o jig-sos a gemau bwrdd teulu i focsys hel atgofion a mwy.
Yn rhan o Groeso Cynnes Llyfrgell, sy’n cael ei gefnogi gan Gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae yna gyfle i alw heibio i gael diod boeth a byrbryd ar adegau penodol yn neg llyfrgell Conwy. 
I gael gwybod mwy am adnoddau a gweithgareddau, ewch i www.llyfrgelloeddconwy.com, ffoniwch 01492 576139 neu ewch draw i’ch llyfrgell leol.
Mae diod boeth a byrbryd ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol ar yr amseroedd canlynol:
Abergele - Dyddiau Mercher - 3:30pm - 6:30pm
Cerrigydrudion - Dyddiau Mawrth - 10:30pm - 12:30pm
Bae Colwyn - Dyddiau Mawrth - 3:30pm - 6:30pm
Conwy - Dyddiau Mawrth - 3:30pm - 6:30pm
Bae Cinmel - Dyddiau Mercher - 2:00pm - 5:30pm
Llandudno - Dyddiau Iau - 3:30pm - 6:30pm
Llanfairfechan - Dyddiau Gwener - 10:45am - 12:45pm
Llanrwst - Dyddiau Mercher - 10:30am - 1:00pm
Penmaenmawr - Dyddiau Mawrth - 2:00pm - 4:30pm
Bae Penrhyn - Dyddiau Iau - 3:00pm - 5:30pm
 
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y DU: rhoi pŵer i gymunedau ym mhobman, a chanolbwyntio’n benodol ar helpu i roi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU. 
 
			Wedi ei bostio ar  03/11/2025