Calendrau ailgylchu ar gyfer 2026-2027

Calendrau ailgylchu
Mae calendrau ailgylchu ar gyfer 2026/27 bellach ar gael ar ein gwefan. Mae sawl ffordd y gall preswylwyr Conwy wirio eu diwrnodau casglu:
Lawrlwythwch ap Conwy: Cewch nodyn yn eich atgoffa bob wythnos pa finiau i’w rhoi allan https://bit.ly/4dTEkzY Gallwch hefyd ddefnyddio’r ap i weld y casgliadau nesaf, archebu cynwysyddion newydd neu roi gwybod am gasgliad a fethwyd.
Ewch i’n gwefan: Gallwch weld eich 4 casgliad nesaf a lawrlwytho’ch calendr ar ein tudalen gwe Fy Nyddiad Casglu https://bit.ly/3RH0xIi
Argraffwch gopi: Gallwch argraffu copi o’ch calendr oddi ar ein gwefan gartref, yn eich llyfrgell leol neu yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella.
Wedi ei bostio ar 16/11/2026