Cofrestrwch i bleidleisio yn etholiad y Senedd

Cofrestru i bleidleisio
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog trigolion nad ydynt eisoes ar y gofrestr etholiadol i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru cyn y dyddiad cau.
Cofrestrwch nawr os nad ydych erioed wedi cofrestru o'r blaen, wedi symud tŷ, neu wedi newid eich enw - fel y gallwch bleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Mae ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau, gan gynnwys pobl ifanc, myfyrwyr a’r rhai sydd wedi symud yn ddiweddar, yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru nag eraill. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw canol nos dydd Llun 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae’n cymryd pum munud yn unig.
Ar ôl iddynt gofrestru, bydd gan bleidleiswyr ystod o ddewisiadau – gallant bleidleisio’n bersonol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy. Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Dywedodd Rhun ap Gareth, y Swyddog Canlyniadau: “Peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud yn etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae etholiadau’r Senedd yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud ar bwy sy’n eich cynrychioli chi ac yn gwneud penderfyniadau ar faterion fel iechyd, trafnidiaeth ac addysg, sy’n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.
“Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a oes angen i chi gofrestru i bleidleisio neu os oes gennych gwestiynau ynghylch gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, cysylltwch â etholiadol@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 576051/52.”
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru: “Mae hi’n bwysig bod pobl yn gwirio eu bod yn barod i bleidleisio cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Mae’n rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi’u cofrestru i bleidleisio, ac efallai bydd angen i rai pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor sy’n byw yng Nghymru hefyd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn, a ni fydd angen ID ffotograffig.
“Os ydych wedi newid eich enw neu’ch cyfeiriad neu wedi symud tŷ ers i chi gofrestru diwethaf, bydd hi ond yn cymryd pum munud i ddiweddaru’ch manylion ar-lein. Mae gwirio nawr yn helpu i sicrhau eich bod gallu pleidleisio mewn modd sy’n iawn i chi.”
Ceir gwybodaeth glir y gellir ymddiried ynddi ynghylch cofrestru i bleidleisio a’ch holl opsiynau pleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Wedi ei bostio ar 04/03/2026