Cofiwch, Dim Pas, Dim Teithio ar fysys ysgol

Dim pas, dim teithio ar fysys ysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa disgyblion a rhieni y bydd angen dangos pas ar gyfer pob taith ar fysiau ysgol.
Er mwyn gwneud yn siŵr bod disgyblion sydd â hawl i deithio yn cael sedd a bod digon o le ar bob bws, bydd y ‘polisi dim pas, dim teithio’ yn cael ei orfodi ar bob bws ysgol Conwy o’r diwrnod cyntaf yn ôl ym mis Medi.
Eglurodd y Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy:
“Rydym yn atgoffa pawb am y neges hon ar ddechrau’r tymor ysgol.
"Mae’r system hon wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn ac rydym ni wedi cysylltu ag ysgolion a rhieni, yn cynnwys defnyddwyr newydd.
“Mae cod lliw ar y pasys bws ac mae enw'r disgybl a rhif eu bws dynodedig yn glir arnynt. Mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn cymwys yn gallu teithio'n ddiogel yn ei sedd ei hun gyda gwregys diogelwch. Mae gorlenwi yn annerbyniol ar wasanaeth ysgolion a lle mae gennym ddau fws yn gweithredu’r un llwybr, efallai y bydd disgyblion yn meddwl am ddal y bws 'hwyrach', a all arwain at un bws yn teithio’n hanner gwag a'r ail mewn perygl o fod yn orlawn. Felly mae’n bwysig bod disgyblion yn dal y bws sydd wedi’i ddynodi ar eu cyfer".
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am drefniadau cludiant eich plentyn, cysylltwch â Thîm Cludiant Teithwyr Conwy ar cludiantteithwyr@conwy.gov.uk neu 01492 577899.
Os yw eich plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant i’r ysgol ac yn mynd i’r flwyddyn ysgol nesaf yn yr un ysgol, byddwn yn diweddaru eich manylion yn awtomatig. Os nad yw’ch cyfeiriad wedi newid byddwn yn parhau i wneud y trefniadau teithio angenrheidiol. Os yw’ch plentyn wedi gorffen blwyddyn 11 ac yn dychwelyd i’r chweched dosbarth, bydd arnoch chi angen gwneud cais arall am gludiant gan na fydd y trefniadau blaenorol yn parhau’n awtomatig.
Os ydi pas eich plentyn wedi mynd ar goll neu wedi’i ddifrodi, mae’n rhaid i chi gael un newydd ar unwaith. Codir £5.00 am bob pas newydd.
Wedi ei bostio ar 22/08/2025