Nodyn i'ch atgoffa i ymgeisio am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26

Gall busnesau fel siopau, tafarndai, bwytai, caffis a siopau trin gwallt wneud cais am y rhyddhad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r canllawiau ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26 ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n atgoffa busnesau lleol i beidio â cholli allan.
O 1 Ebrill 2025, gallai busnesau fod yn gymwys am 40% o ryddhad ardrethi busnes dan y cynllun.
Gall busnesau fel siopau, tafarndai, bwytai, caffis a siopau trin gwallt wneud cais am y rhyddhad hwn.
Bydd busnesau cymwys a feddiannwyd yn cael rhyddhad o 40% yn eu hardrethi ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 ond bydd swm yr hyn a gaiff ei ryddhau o dan gynllun yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes drwy Gymru gyfan.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet ar gyfer Economi Gynaliadwy, “Mae’n bwysig nad yw busnesau’n anghofio bod rhaid iddynt ymgeisio i’r Cyngor am y rhyddhad hwn er mwyn sicrhau nad ydynt yn methu allan. Mae’r rhyddhad yn gefnogaeth sylweddol i fusnesau.”
Os ydych chi’n credu y gallwch chi fod yn gymwys neu os ydych wedi derbyn Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn y gorffennol ond heb wneud cais eto mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2025/26, llenwch y ffurflen ar wefan y Cyngor www.conwy.gov.uk/Rhyddhadardrethi
Gallwch weld copi o'r canllawiau yma: Canllawiau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025-2026
Wedi ei bostio ar 19/08/2025