Ymateb i'r Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol 2024-25
Llythyr gan Arweinydd y Cyngor i Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar y setliad ariannol dros dro 2024/25 Llywodraeth Leol:
Rydw i’n ysgrifennu’n ffurfiol i ymateb i’ch ymgynghoriad yn dilyn cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2023 o’r Setliad Refeniw a Chyfalaf Dros Dro Llywodraeth Leol 2024-25.
Er ein bod yn ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi terfyn isaf i’r setliad, bydd yr ymgodiad arfaethedig o 2% ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael effaith andwyol pellach ar yr ystod a lefel o wasanaethau y gallwn ddarparu i’n holl drigolion.
Mae cynnydd o 2% mewn AEF ar gyfer Conwy yn gyfystyr â chynnydd o £4.1 miliwn yn unig tuag at chwyddiant cyflog a phrisiau a chynnydd disgwyliedig o ran galw mewn gwasanaethau yn y flwyddyn i ddod. Caiff hyn ei erydu ymhellach trwy dynnu grant i gyllido penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu dyfarniad tâl athrawon ym Medi 2022 o 1.5%, sy’n faich ychwanegol o £800,000 ar gyfer Conwy.
I roi’r cyllid ychwanegol gweddillol o £3.3 miliwn mewn cyd-destun, bydd y gost ychwanegol i’r Cyngor er mwyn sicrhau bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i holl weithwyr gofal yng Nghymru (sydd wedi cynyddu 10%), yn costio £5.3 miliwn i’r Cyngor yn 2024/25 wrth i ni gynyddu ffioedd gofal er mwyn cadw i fyny a’r ymgodiad chwyddiannol. Er ein bod yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyllid i’r setliad hwn pan wnaeth ei ymrwymiad yn wreiddiol, ni ymddangosir fod unrhyw gydnabyddiaeth wedi cael ei roi ers hynny i gyllido’r pwysau parhaus o ganlyniad i’r twf blynyddol mewn cyflogau.
Yn ogystal â’r pwysau penodol a nodwyd eisoes, mae’r Cyngor yn wynebu ystod o bwysau ariannol eraill yn 2024/25 gan gynnwys dyfarniad cyflog ar gyfer athrawon a staff llywodraeth leol, chwyddiant cyffredinol, costau benthyca uwch, yn ogystal â phwysau yn sgil galw sylweddol mewn gofal cymdeithasol a digartrefedd, sy’n dod i gyfanswm o tua £29 miliwn. Ar ôl y setliad o £4 miliwn, rydym felly’n wynebu diffyg o ran adnoddau o £25 miliwn. Er bod Conwy â’r cynnydd uchaf mewn Treth y Cyngor yng Nghymru yn Ebrill 2023, byddwn unwaith eto’n gorfod ystyried cynnydd uwch na’r hyn a hoffem ei roi ar ein trigolion sydd yn parhau i’w chael yn anodd â’r argyfwng costau byw. Fodd bynnag ni all Treth y Cyngor gau diffyg o £25 miliwn a byddwn felly’n gorfod ystyried ystod o benderfyniadau anodd ar y lefel ac ansawdd o wasanaethau a ddarparwn, a fydd yn effeithio’n negyddol ar ein trigolion.
Rydym yn parhau i gredu fod y fformiwla cyllido a ddefnyddir i benderfynu ar y dyraniad cyllid wedi dyddio, yn wallus ac nid yw bellach yn addas i’r diben. Mae’n creu anghydraddoldeb ar draws Cymru.
Poblogaeth Conwy sydd â’r gyfran uchaf (27%) o breswylwyr 65+ oed yng Nghymru, er nid yw’r fformiwla cyllido yn ystyried y data mwyaf diweddar sydd ar gael yn y mesur hwn.
Yn ogystal â hynny, nid yw’r costau o fewn y fformiwla a ddyrannir o ran trigolion oedrannus yn cydgysylltu â’r gost wirioneddol o ddarparu gwasanaethau a gofal heddiw. Mae Conwy’n unigryw yn yr ystyr bod cyfran uwch o’i wasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau statudol, yn cael eu darparu gan ddarparwyr allanol gyda chynnydd o ran costau yn llawer uwch na chwyddiant a’r ymgodiad o 2%.
Credwn fod ein Sir yn debyg iawn i’n cymdogion yn Sir Ddinbych a Gwynedd, ond eto rydym yn parhau i dderbyn cyllid llawer is y pen na’r Cynghorau hynny. Yn y setliad dros dro, derbyniodd Sir Ddinbych oddeutu £243 y pen yn fwy na Chonwy, a fyddai’n gyfystyr â £28 miliwn arall mewn cyllid ar gyfer Conwy petai’n cael ei gefnogi ar yr un lefel. Er ein bod yn cydnabod fod rhai gwahaniaethau rhyngom, a bod gan Sir Ddinbych rhai ardaloedd o amddifadedd uchel, rydym hefyd yn credu ein bod yn rhannu tebygrwydd i’r graddfeydd nad yw gwahaniaeth o £28 miliwn yn rhesymegol.
Yn setliad 2023/24 a setliad dros dro 2024/25, mae Conwy wedi dioddef o ganlyniad i ailddosbarthiad yn dilyn diweddaru data poblogaeth yn dilyn y cyfrifiad diwethaf. Er mai gostyngiad bychan oedd yn ein poblogaeth gyffredinol, rydym wedi colli’n sylweddol o ganlyniad i’r ailddosbarthiad o ganlyniad i’r newid o’i gymharu ag eraill. Credwn y dylid rhoi ystyriaeth i ddarparu cyfnod hirach o amddiffyn wrth bontio, i awdurdodau sy’n destun gostyngiadau mewn cyllid yn sgil gostyngiad mewn poblogaeth er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod gwneud yr addasiadau angenrheidiol i ddarpariaeth gwasanaeth yn cymryd hirach na’r amddiffyniad dwy flynedd presennol. Yn ogystal â hynny, mewn realiti mae cost y gwasanaeth yn parhau i fod yr un fath, er y gostyngiad o oddeutu 400 o bobl mewn poblogaeth o 114,000.
Yn y ddegawd ddiwethaf, mae Conwy wedi gwneud toriadau o dros £80 miliwn. Bydd angen mwy na £10 miliwn o doriadau cylchol ychwanegol er mwyn cydbwyso ein cyllideb ar gyfer 2024/25 ac mae gwasanaethau yn cael eu colli er mwyn ein galluogi ni i osod cyllideb gytbwys sy’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud. Isod rwyf wedi nodi enghreifftiau pellach o effaith y bydd y toriadau diweddaraf yn eu cael ar ein gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg, ond peidiwch â diystyru’r effaith mae dros ddegawd o doriadau wedi ei gael ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau effeithiol a safonol i’n trigolion.
Gofal Cymdeithasol
- Mae’r gwaith i ail-ganolbwyntio grantiau yn arwain at ostyngiad mewn grantiau sy’n ariannu gwasanaethau gofal cymdeithasol ataliol. Mae Conwy wedi gweld gostyngiad o 20% (£400,000) yn y grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Mae meini prawf grantiau yn arwain at ofynion darparu cynyddol sy’n golygu mwy o adnoddau, sy’n gwneud yr anawsterau ariannol presennol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn waeth.
- Nid yw dyraniadau grant yn cyfrif am gynnydd mewn costau chwyddiannol ac mae cyllid grant yn hanfodol i ddarparu’r gwasanaethau ataliol sy’n cefnogi darpariaeth ein gwasanaethau craidd. Heb y gwasanaethau ataliol hyn, mae Conwy yn colli cyfle i weithio mewn modd mwy effeithiol o ran cost a bydd yn gweld costau cynyddol ac aneffeithlonrwydd yn yr hirdymor.
- Mae dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth o fewn y sector gofal cymdeithasol yng Nghonwy yn sgil anawsterau mewn denu a recriwtio pobl. Mae darparwyr allanol yn wynebu cystadleuaeth gan sectorau eraill sy’n talu cyflogau tebyg ac felly’n gorfod cynnig cyflogau sydd uwchben y cyflog byw gwirioneddol i ddenu a chadw staff. Mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar y ffioedd gofalu yr ydym yn gorfod eu talu.
Addysg
- Mae’r setliad annigonol yn ei gwneud yn ofynnol i Addysg ystyried dulliau radical i ddarpariaeth gwasanaeth, gan gynnwys lleihau oriau gweithredu ysgolion a lleihau dewisiadau pynciau TGAU a Lefel A. Bydd gan y dulliau hyn effaith andwyol sylweddol ar y ddarpariaeth o addysg safonol ar gyfer pobl ifanc y sir. Bydd lleihad mewn dewisiadau pwnc ar gyfer TGAU a Lefel A yn debygol o ddigwydd mewn pynciau celfyddydau a diwylliannol, gan arwain at brinder mewn sgiliau yn y meysydd hyn ar gyfer yr economi ehangach. Byddai lleihad mewn oriau gweithredu ysgolion yn rhoi pwysau ar rieni i ddarparu trefniadau gofal plant ychwanegol ac ar gyfer rhieni sy’n gweithio, byddai hyn yn arwain at gostau gofal plant cynyddol.
- Mae recriwtio a chadw staff allweddol yn dod yn llawer mwy heriol ac rydym bellach yn profi penaethiaid yn ymddiswyddo gan ddweud ei bod yn amhosibl iddynt reoli eu cyllidebau ysgol yn sgil yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Mae cyllid grant tymor byr hefyd yn ei gwneud yn anodd denu a recriwtio staff i’r gwasanaeth, gan nad yw swyddi tymor penodol 1 mlynedd yn amlwg yn ddeniadol o’i gymharu â swyddi tymor penodol hirach neu swyddi parhaol yn rhywle arall.
- Mae costau cludiant ac ynni ysgolion yn parhau i gynyddu’r llawer uwch na’r cynnydd o 2% yn y setliad. Mae cyllid i leihau defnydd ynni o fewn ysgolion yn anghyson, ac nid yw’r cynnwys yr ystâd ysgol gyfan ac mae’n cymryd amser i’r arbedion ynni a chost gael eu gwireddu.
Roedd eich llythyr yn ceisio barn yn benodol i ran effaith ar y Gymraeg ac mae’n amlwg y bydd y setliad yn effeithio’n sylweddol ar allu’r Cyngor i ddarparu ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn effeithiol. Dros y blynyddoedd mae Conwy wedi ceisio diogelu ei ysgolion rhag effeithiau cyllid annigonol, ond mae realiti'r sefyllfa ariannol yn golygu nad yw hyn bellach yn bosibl. O ganlyniad mae ysgolion yn ei chael yn anodd o fewn eu cyllidebau ysgolion unigol ac mae’r ystod a chyfoeth o’u cynnig o dan bwysau cynyddol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Fel arsylwad terfynol, mae cyhoeddiadau a mentrau cyllido Llywodraeth Cymru yn aml yn cael eu targedu tuag at ‘Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ lle mae’n amlwg, mewn realiti fod cyllid yn cael ei gyfeirio yn anghymesur tuag at Gyrff Iechyd, gydag ychydig iawn o ystyriaeth ar gyfer y costau sylweddol mae Awdurdodau Lleol yn parhau i’w derbyn ar gyfer gofal, yn ogystal â’r gwaith hanfodol yr ydym yn ei wneud i atal galw pellach ar wasanaethau iechyd trwy ymyrryd yn gynnar, yn ogystal â chefnogi rhyddhau cleifion yn ôl i’r gymuned. Felly gwerthfawrogwn weld mwy o gyllid yn cael ei gyfeirio yn benodol i Awdurdodau Lleol i gydnabod y gwaith sylweddol mae Gofal Cymdeithasol yn ei chwarae ar y cyfan.
Roedd Llywodraeth Leol yn arfer bod yn yrfa o ddewis ac mae’n fy nhristau nad hyn yw’r achos bellach. Mae’n dod yn gynyddol anodd i ddenu, cadw ac ysgogi staff i ddarparu gwasanaethau o safon uchel yn yr amgylchedd presennol, yn arbennig pan mae cyflog llywodraeth leol y tu ôl i rannau eraill o’r sector cyhoeddus. Mae’r gofynion cynyddol a’r diffyg adnoddau yn dinistrio’r sector ac nid oes dewis ond lleihau gwasanaethau gwerthfawr neu ddod â hwy i ben yn gyfan gwbl.
Y Cynghorydd Charlie McCoubrey
Arweinydd y Cyngor a Deiliad Portffolio Cyllid a’r Strategaeth Gyllid
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 05/02/2024