Glan Môr Llandrillo-yn-Rhos yn Ennill Gwobr Fawreddog

Glan Môr Llandrillo-yn-Rhos yn ennill Gwobr BCI
Mae trawsnewidiad glan môr Llandrillo-yn-Rhos wedi’i gydnabod gydag anrhydedd fawr ar lefel Prydain, gan ennill Gwobr Prosiect Creu Lle yng Ngwobrau Adeiladu ac Isadeiledd Prydain (BCIA) 2025.
Mae’r BCIA yn dathlu rhagoriaeth mewn dylunio, cyflawni ac effaith gymdeithasol ar hyd a lled Prydain a thu hwnt. Y gwobrau eleni oedd y rhai mwyaf cystadleuol hyd yma, gyda thros 250 wedi cystadlu o fwy na 100 o sefydliadau ar draws 24 o gategorïau. Wedi’i drefnu gan New Civil Engineer a Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), roedd y gwobrau’n amlygu popeth o isadeiledd cludiant mawr i adfywio cymunedol.
Roedd Prosiect Cam 2b (Llandrillo-yn-Rhos) Bae Colwyn yn un amlwg yn y categori Creu Lleoedd – roedd ei weledigaeth, ei arloesedd a’i fudd i’r gymuned wedi creu argraff ar y beirniaid.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Conwy:
“Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y wobr hon, yn enwedig o weld safon y prosiectau oedd yn ein herbyn. Mae’n gydnabyddiaeth wych i’r gwaith caled a’r cydweithio fu’n rhan o’r cynllun.”
Roedd Cam 2b ym Mhrosiect Glan Môr Bae Colwyn yn canolbwyntio ar y darn o ben deheuol Arglawdd Cayley i Harbwr Llandrillo-yn-Rhos.
Mae nodweddion allweddol y prosiect yn cynnwys:
- Miliwn o dunelli o dywod wedi’u mewnforio i greu traeth newydd, sydd hefyd yn gweithredu fel amddiffynfa rhag y môr.
- Promenâd ar newydd wedd gyda llochesi newydd, ardaloedd chwarae rhyngweithiol ac amrywiaeth o leoedd i eistedd – o feinciau picnic a chadeiriau torheulo i feinciau ‘hapus i sgwrsio’ a rhai wedi’u pweru â phaneli solar.
- Llwybr defnydd cymysg, cynllun ffordd newydd gyda thraffig unffordd, lle parcio ychwanegol a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.
- Celf gyhoeddus ac ardaloedd gweithgareddau, yn cynnwys peiriannau ymarfer corff, offerynnau cerdd, gemau a delwau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Priestley: “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith, o’n tîm ymroddgar o fewn y Cyngor i’n partneriaid yn BCA Landscape, Griffiths, Mott MacDonald a Boskalis Westminster. A diolch o galon i Lywodraeth Cymru am eu buddsoddiad hollbwysig yn y prosiect trawsnewidiol yma.”
Cafodd yr Achos Busnes Amlinellol, y dyluniad, pob darn o gymeradwyaeth a’r Achos Busnes Llawn eu hariannu gan Raglen Rheoli Perygl Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth y Rhaglen honno hefyd gyfrannu 85% o’r costau adeiladu, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n ariannu’r 15% oedd yn weddill.
Dolen: BCI Awards 2025
Llun: Y Cyng Mike Priestley, Aelod Cabinet Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau; Y Cyng Hannah Fleet, cynghorydd Llandrillo-yn-Rhos; Benjamin Poulton, Rheolwr Prosiect - Glan y Môr Bae Colwyn.
Wedi ei bostio ar 22/10/2025