Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ionawr 2026

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ionawr 2026


Summary (optional)
start content

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ionawr 2026

Resurfacing crop 3

Rhoi wyneb newydd ar ffordd

Trinity Square, Llandudno: Dydd Llun 12 Ionawr - Dydd Sadwrn 17 Ionawr

Rydym yn rhoi wyneb newydd yn Trinity Square rhwng Trinity Avenue a’i chyffordd â Mostyn Street. Bydd ein contractwr yn gweithio o 6pm tan 6am. Bydd y gwaith mwyaf swnllyd yn cael ei wneud yn gynnar gyda’r nos er mwyn peidio â tharfu’n ormodol ar bobl. Bydd yn rhaid i ni gau’r ffordd hon yn ystod y gwaith.  Bydd gwyriadau ar waith.

Gloddaeth Avenue, Llandudno: Dydd Mawrth 13 Ionawr - Dydd Sadwrn 17 Ionawr

Rydym yn rhoi wyneb newydd ar Gloddaeth Avenue o Gylchfan y Gogarth i West Parade. Bydd ein contractwr yn gweithio o 6pm tan 6am. Bydd y gwaith mwyaf swnllyd yn cael ei wneud yn gynnar gyda’r nos er mwyn peidio â tharfu’n ormodol ar bobl. Bydd yn rhaid i ni gau rhannau o’r ffordd yn ystod y gwaith. Bydd dargyfeiriadau yn eu lle.

Ffordd Rhiw, Bae Colwyn: Dydd Llun 19 Ionawr - Dydd Llun 2 Chwefror

Rydym yn rhoi wyneb newydd ar Ffordd Rhiw o’i chyffordd â Ffordd Abergele i’w chyffordd â’r Hen Briffordd. Bydd ein contractwr yn gweithio o 7am tan 6pm. Bydd yn rhaid i ni gau rhannau o’r ffordd ar brydiau er mwyn gwneud y gwaith hwn. Byddwn ond yn cau un rhan o’r ffordd ar y tro er mwyn lleihau’r tarfu.  Bydd gwyriadau ar waith lle bo modd.

Ffordd Las, Llandudno: Dydd Llun 19 Ionawr - Dydd Mawrth 27 Ionawr

Rydym yn rhoi wyneb newydd ar Ffordd Las o’i chyffordd â Ffordd Maesdu i’w chyffyrdd â Ffordd Dewi a Ffordd Morfa. Bydd ein contractwr yn gweithio o 7am tan 6pm. Bydd yn rhaid i ni gau’r ffordd hon yn ystod y gwaith.  Bydd gwyriadau ar waith.

  

Ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.

Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.

Beth yw rhoi wyneb newydd?

Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)

Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau

Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol

Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu

Cam 5 – gosod yr wyneb newydd

Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri

Cam 7 – ailbeintio'r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.  Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.

Cwestiynau?

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr wneud y gwaith yma.

 


 

Wedi ei bostio ar 14/01/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content