Cau ffordd ar Y Gogarth i wneud gwaith ar Golonâd Llandudno

Colonâd Llandudno
Mae gwaith wedi dechrau i ailwampio’r Colonâd yn Llandudno.
Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, fe fydd Alex Munro Way, yn syth o flaen y Colonâd, yn cael ei gau dros dro, o 10 Tachwedd am hyd at bump wythnos.
- Bydd y ffordd ar agor ar ddyddiau Sadwrn a Sul.
- Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal ar hyd Happy Valley Road.
- Bydd busnesau ar hyd y ffordd dal i fod ar agor fel arfer.
Yr wythnos sy’n dechrau 10 Tachwedd, fe fydd y ffordd yn cael ei chau rhwng yr amseroedd canlynol:
Dydd Llun: 8am-3.30pm
Dydd Mawrth: 8am-3.30pm
Dydd Mercher: 8am-1.30pm
Dydd Iau: 8am-3pm
Dydd Gwener: 8am-2.30pm
O 17 Tachwedd ymlaen, fe fydd y ffordd yn cael ei chau rhwng yr amseroedd canlynol:
Dyddiau Llun: 8am-3.30pm
Dyddiau Mawrth: 8am-3.30pm
Dyddiau Mercher: 8am-1.30pm
Dyddiau Iau: 8am-3pm
Dyddiau Gwener: 8am-5.30pm
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd pawb wrth i’r gwaith trwsio gael ei wneud.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i: Y Colonâd - Dewch i Gonwy
Sicrhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy £800,000 yn gynharach eleni o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a Chronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru er mwyn adfer y strwythur hanesyddol.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth y DU: rhoi pŵer i gymunedau ym mhobman, a chanolbwyntio’n benodol ar helpu i roi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
Wedi ei bostio ar 06/11/2025