Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ffordd Coed Pella, Bae Colwyn

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ffordd Coed Pella, Bae Colwyn


Summary (optional)
start content

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ffordd Coed Pella, Bae Colwyn

Resurfacing crop 3

Rhoi wyneb newydd ar ffordd

Gwaith yn dechrau: Dydd Mercher 14 Hydref 2026

Gwaith yn dod i ben: Dydd Mawrth 20 Hydref 2026

Beth sy’n digwydd?

Rydym yn rhoi wyneb newydd ar Ffordd Coed Pella o’i chyffordd gyda Rhodfa Riviere i’w chyffordd gyda Hillside Road.

Bydd ein contractwr yn gweithio rhwng 8am a 6pm. Byddwn angen cau rhan o’r ffordd i gwblhau’r gwaith. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer gwyriadau.

A fydd hyn yn effeithio ar barcio?

Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.

Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.

Beth yw rhoi wyneb newydd?

Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)

Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau

Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol

Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu

Cam 5 – gosod yr wyneb newydd

Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri

Cam 7 – ailbeintio'r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.  Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.

Cwestiynau?

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr wneud y gwaith yma.

Wedi ei bostio ar 12/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content