Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Faenol Avenue, Abergele

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Faenol Avenue, Abergele


Summary (optional)
start content

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Faenol Avenue, Abergele

Resurfacing crop 3

Rhoi wyneb newydd ar ffordd

Gwaith yn dechrau: Dydd Mercher 1 Ebrill 2026

Gwaith yn dod i ben: Dydd Sul 12 Ebrill 2026

Beth sy’n digwydd?

Rydym yn rhoi wyneb newydd ar ffordd Faenol Avenue o’i gyffordd â Ffordd Rhuddlan i’r bont.

Bydd ein contractwr yn gweithio rhwng 7am a 2am. Bydd mwyafrif y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y dydd. Bydd y gwaith mwyaf swnllyd yn cael ei wneud yn gynnar gyda’r nos er mwyn peidio â tharfu’n ormodol ar bobl. Bydd yn rhaid i ni gau rhannau o’r ffordd ar brydiau er mwyn gwneud y gwaith hwn. Bydd system gonfoi ar waith. 

A fydd hyn yn effeithio ar barcio?

Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.

Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.

Beth yw rhoi wyneb newydd?

Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)

Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau

Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol

Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu

Cam 5 – gosod yr wyneb newydd

Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri

Cam 7 – ailbeintio'r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.  Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.

Cwestiynau?

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr wneud y gwaith yma.

 

 

Wedi ei bostio ar 25/03/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content