Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Fernbrook Road, Penmaenmawr

Gwaith ffyrdd
Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 18 Awst 2025
Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 22 Awst 2025
Beth sy’n digwydd?
Rydym yn rhoi wyneb newydd ar Fernbrook Road, Penmaenmawr.
Bydd ein contractwr yn gweithio o 7am tan 6pm.Bydd yn rhaid i ni gau’r rhannau o’r ffordd ar brydiau er mwyn gwneud y gwaith hwn. Bydd trefn gweithio mewn confoi ar waith.
A fydd hyn yn effeithio ar barcio?
Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.
Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.
Beth yw rhoi wyneb newydd?
Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)
Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau
Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol
Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu
Cam 5 – gosod yr wyneb newydd
Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri
Cam 7 – ailbeintio'r marciau ffordd
Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.
Cwestiynau?
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.
Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr wneud y gwaith yma.
Wedi ei bostio ar 14/08/2025