Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ffordd y Llan, Llysfaen

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ffordd y Llan, Llysfaen


Summary (optional)
start content

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Ffordd y Llan, Llysfaen

Roadworks

Gwaith ffyrdd

Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 24 Tachwedd 2025

Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025 (os yw'r tywydd yn caniatáu)


Beth sy’n digwydd?
Rydym yn ail-wynebu Ffordd y Llan, Llysfaen gan 7am - 6pm.

Bydd yn rhaid i ni gau’r ffordd ar brydiau er mwyn gwneud y gwaith hwn. Bydd gwyriad gydag arwyddion yn ei le.

Siaradwch gyda’r contractwr rheoli traffig ar y safle i drafod a ellwch gael mynediad gyda cherbyd a phryd. Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.


A fydd hyn yn effeithio ar barcio?
Ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.


Beth yw rhoi wyneb newydd?
Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)
Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau
Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol
Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu
Cam 5 – gosod yr wyneb newydd
Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri
Cam 7 – ailbeintio'r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.  Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.


Cwestiynau?
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.


Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr wneud y gwaith yma.

Wedi ei bostio ar 17/11/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content