Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Y diweddaraf am Bont y Soldiwr Mis Mehefin 2023

Y diweddaraf am Bont y Soldiwr Mis Mehefin 2023


Summary (optional)
start content

Y diweddaraf am Bont y Soldiwr Mis Mehefin 2023

Mae Pont y Soldiwr (Sappers) ynghau ar hyn o bryd ar sail diogelwch gan fod yr estyll pren, cefnogaeth yr estyll, prif geblau crog a’r tyrau i gyd angen eu newid. Mae’n rhaid tynnu’r bont gyfan a’i hailadeiladu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dechrau gwaith dylunio ar y prosiect hwn, gan gynnwys y dewis o ymestyn y dec ac uwchraddio i safonau modern. Mae arian wedi’i sicrhau drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.  

Rydym yn disgwyl cael darluniadau cysyniadol ar gael ym mis Gorffennaf ac yna byddwn yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn y pentref.   

Rydym wedi ymchwilio i weld a oes unrhyw ffordd o agor y bont dros dro ond yn anffodus nid yw hyn yn bosibl oherwydd bod y prif geblau wedi eu condemnio. 

 

Wedi ei bostio ar 02/06/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content