Ymgynghoriadau Ysgolion yn Mynd Rhagddynt

Ymgynghoriadau Ysgolion
Mae’r ymgynghoriadau ffurfiol ar gynigion i gau Ysgol Betws-y-coed ac Ysgol Ysbyty Ifan yn dechrau heddiw (28/11/25).
Mae Gwasanaeth Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofyn i bobl gyflwyno eu safbwyntiau ar y cynigion i gau'r ysgolion hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg, “Mae’r ddau ymgynghoriad hyn yn gam angenrheidiol i sicrhau ein bod ni’n cael safbwyntiau pob cymuned ysgol. Rwy’n annog dysgwyr, rhieni, llywodraethwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb i gymryd rhan.”
Mae'r wybodaeth a'r ffurflenni ymateb ar-lein ar gael ar wefan Conwy yn:
Os nad ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd, gallwch chi gael copi papur o’r dderbynfa yng Nghoed Pella, Llyfrgell Llanrwst, neu drwy ffonio 01492 575595.
Bydd yr ymgynghoriadau yn para 6 wythnos. A fyddech cystal â chyflwyno’ch safbwyntiau erbyn 09/01/26.
Bydd Cynghorwyr yn cael adroddiad yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd ym mis Mawrth 2026.
Nodiadau:
Gan fod Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws-y-coed wedi’u dynodi'n ysgolion gwledig dan God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, rhaid i unrhyw gynnig i’w cau ddilyn gweithdrefnau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn eu cau a gofyniad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddangos cyfiawnhad cadarn dros wneud hynny, ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau amgen posib yn gydwybodol.
Adroddiadau Ysgol Ysbyty Ifan (eitem 419) ac Ysgol Betws y Coed (eitem 420): Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025, 2.00 pm
Wedi ei bostio ar 28/11/2025