Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Specialist street cleaning

Glanhau strydoedd arbenigol


Summary (optional)
start content

Glanhau strydoedd arbenigol

Rydym wedi dechrau gwaith glanhau strydoedd arbenigol yn y sir gydag arian a gafwyd gan Lywodraeth y DU.

Mae ein contractwr yn defnyddio peiriannau sgwrio pwysedd uchel, golchwyr chwistrell a deunyddiau glanhau sydd ddim yn niweidiol i’r amgylchedd i lanhau strydoedd Llanrwst, Abergele, Bae Cinmel, Towyn, a Chyffordd Llandudno (eisoes wedi’i gwblhau), a Chonwy, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Llandrillo yn Rhos a Llandudno yn drylwyr. Bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen tan ddechrau mis Rhagfyr.

Cerbydau wedi’u parcio

Os ydych yn gwybod bod eich stryd chi ar fin cael ei glanhau peidiwch â pharcio eich car yno. Cyfrifoldeb y perchennog fydd cerbydau sy’n cael eu gadael yn yr ardaloedd sydd i gael eu glanhau. Ni all ein contractwyr warantu na fydd deunyddiau glanhau, baw neu ddŵr budr yn taro eich cerbyd yn ystod y broses.

Tarfu

Bydd y gwaith yn digwydd fin nos a gyda’r nos o XXpm to XXam, pan nad oes gymaint o draffig ar y ffyrdd. Rydym yn ymddiheuro os bydd sŵn y gwaith yn tarfu arnoch ond dim ond dros dro fydd hyn a bydd yn arwain at strydoedd glanach.

Hen Golwyn 30 & 31 Hydref 2024

  • Cefn Road
  • Abergele Road (Princess Rd i Ffordd yr Orsaf)

Llandrillo yn Rhos 31 Hydref - 1 Tachwedd 2024 a 3 - 6 Tachwedd 2024

  • Rhodfa Penrhyn (Promenâd Rhos i Colwyn Avenue)
  • Colwyn Avenue (Rhodfa Penrhyn i B5116)
  • B5116 (Promenâd Rhos i Colwyn Avenue)

Conwy 6 - 8 Tachwedd 2024 a 10 - 11 Tachwedd 2024

  • Town Ditch Road
  • High Street
  • Castle Street
  • Rose Hill Street

Bae Colwyn 11 - 15 Tachwedd 2024

  • Conway Road (Coed Pella Road i Sea View Road)
  • Penrhyn Road
  • Ffordd yr Orsaf
  • Ardal i gerddwyr Canolfan Bay View

Llandudno 17 - 22 Tachwedd 2024, 24 – 29 Tachwedd a 1 - 6 Rhagfyr 2024

  • Church Walks (North Parade i Mostyn Street)
  • Mostyn Street
  • North Parade
  • Lloyd Street
  • St George’s Parade
  • Clonmel Street
  • Trinity Square
  • Vaughan Street
  • Gerddi’r Gogledd Orllewin

 

Wedi ei bostio ar 31/10/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content