Taflu goleuni ar effaith gadarnhaol ar gymunedau, busnesau a phobl

Digwyddiad yng Nghanolfan Busnes Conwy
O fod yn tynnu rhwystrau yn ffordd cyflogaeth hyd at uwchraddio cyfleusterau allweddol, mae’r ffigyrau sy’n tynnu sylw at lwyddiant rhaglen ar gyfer Gogledd Cymru a ariennir gan y llywodraeth wedi cael eu datgelu.
Dyrannwyd rhagor na £123 miliwn i’r rhanbarth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), gyda 169 o brosiectau yn darparu cynlluniau teilwredig dros dri maes blaenoriaeth: cymunedau a lleoliad; cefnogi busnesau lleol; a phobl a sgiliau.
Gyda’r gallu yn cael ei roi i’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i wneud penderfyniadau cyllidol, cefnogwyd mwy na 15,000 o bobl, 4,135 o fusnesau, a mwy na 1,830 o grwpiau lleol o 2022 hyd 2025.
Mae pwyntiau allweddol o gyflawniadau’r rhaglen yn cynnwys adeiladu neu welliant dros 500 o gyfleusterau cymunedol, y mae llawer ohonynt wedi uwchraddio cyfleusterau ar gyfer cefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau y mae angen mawr amdanynt yn lleol i’r dyfodol, diogelu bron i 1,000 o swyddi a 686 arall yn cael eu creu, mwy na 38,750 o gyfleoedd i wirfoddoli, a chynnal mwy na 10,263 o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Datgelwyd yr ystadegau mewn digwyddiad i ddathlu a gynhaliwyd yng Nghanolfan Busnes Conwy, gyda chyhoeddiad yn cael ei lansio sy’n rhoi manylion am y straeon o lwyddiannau ledled Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, a Wrecsam.
Meddai dirprwy gadeirydd Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, y Cynghorydd Charlie McCoubrey: “Mae’r wybodaeth a ddaeth i law eisoes yn darlunio portread addawol o lwyddiant a newid ystyrlon ledled y Gogledd. Rydym ni’n tystio eisoes i’r effeithiau cadarnhaol oherwydd gwelliannau i asedau a seilwaith cymunedau lleol, a chynnydd o ran cefnogi pobl i gael swyddi.
“Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y Gogledd – diolch i’r ymagwedd hyblyg wrth galon y Gronfa Ffyniant Gyffredin – yn dangos sut, drwy roi gallu i ardaloedd lleol, y gellir ymdrin â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn effeithlon ac effeithiol.”
Roed data pellach yn datgelu bod mwy na 7,600 o unigolion wedi ennill neu wedi cael cefnogaeth i ennill cymhwyster, bod yn agos i 5,300 o bobl wedi cael gafael ar gefnogaeth cyflogadwyedd, ac fe wnaeth busnesau leihau eu CO2 gan 456 tunnell.
Mae Siobhan Brighton yn canmol effaith UKSPF ar ei bywyd wedi iddi gwblhau cynllun 16 wythnos Gofal Plant ar Waith ym meithrinfa Springfields Day Nursery, Ashbourne, Bae Colwyn.
Dan arweiniad National Day Nurseries Association (NDNA) Cymru, ar gynllun. yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae Siobhan sy’n 20 oed bellach wedi cael swydd lawn amser yn y feithrinfa.
Meddai: “Dyma fy ngham cyntaf i ddilyn gyrfa yn y maes gofal plant – un na allwn fod wedi ei gymryd ar fy mhen fy hun.”
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae hi’n ardderchog cael clywed am y prosiectau llwyddiannus yng Ngogledd Cymru a gafodd eu cyflenwi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a ariennir gan Lywodraeth y DU.
“Rydym ni wedi gwneud twf economaidd yn dasg gyntaf un i ni. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Du yn helpu pobl i ennill sgiliau ar gyfer sicrhau gwaith sy’n talu yn dda ac mae’n gweithio er mwyn gwneud Gogledd Cymru yn lle gwych i weithio, byw a masnachu.”
I weld y cyhoeddiad effaith, gweler https://shorturl.at/1xXiu
Roedd y cyllid yn cefnogi tair blaenoriaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin:
- Cymunedau a lleoedd (£58.98 miliwn): ar gyfer gwella egni ac atyniad ardaloedd lleol.
- Cynorthwyo busnesau lleol (£24.20 miliwn): ar gyfer meithrin twf, arloesi, a chynaliadwyedd mewn mentrau lleol.
- Pobl a sgiliau (£36.68 miliwn): ar gyfer arfogi preswylwyr â’r sgiliau a’r cyfleoedd am ddyfodol ffyniannus.
Wedi ei bostio ar 18/06/2025