Datganiad ar lety Ceiswyr Lloches yn ardal Llandudno
Gwasgaru yw’r broses y mae’r Swyddfa Gartref yn ei defnyddio i symud ceiswyr lloches diymgeledd i Gynghorau ar draws y DU dan Bolisi Gwasgaru Llawn Llywodraeth y DU. Mae’r polisi hwn yn golygu bod disgwyl i bob Cyngor yn y DU weithio â’r Swyddfa Gartref i ddod o hyd i lety ar gyfer ceiswyr lloches, fel bod pawb yn cyfrannu tuag at ddarparu cefnogaeth.
Mae’r Swyddfa Gartref yn defnyddio contractwr preifat, Clearsprings Ready Homes i ddarparu llety lloches yng Nghymru.
Fel awdurdod lleol, rydym yn derbyn hysbysiad gan Clearsprings Ready Homes pan maent yn bwriadu caffael eiddo yn ein hardal. Rydym wedi derbyn cais yn ddiweddar i ystyried pedwar rhandy yn ardal Llandudno ar gyfer teuluoedd. Bydd Clearsprings Ready Homes yn gweithio gyda landlordiaid i adnewyddu ac ailwampio’r eiddo hyn i’w dod â nhw’n ôl i ddefnydd.
Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru
Wedi ei bostio ar 18/12/2025