Cartref Newyddion Eitemau newyddion Safonau Masnach - Ymgyrch Nicosia
start content

Safonau Masnach - Ymgyrch Nicosia

Trading Standards - Counterfeit 01 Vapes (F)

Fêps peryglus ac anghyfreithlon

Yn dilyn atafaelu cynnyrch tybaco, sigaréts a fêps anghyfreithlon a ffug peryglus o guddfannau, gyda chefnogaeth gan weithredwyr TCC Conwy, aeth swyddogion Safonau Masnach Conwy i Snowdonia Mini Market, 29 Marine Road, Pensarn, LL22 7PS, ar 27 Hydref 2026. Rhoddwyd Hysbysiad Cau i’r gweithredwr.

Ar 29 Hydref 2026, mynychodd swyddogion Lys Ynadon Llandudno a chyflwyno cais llwyddiannus am Orchymyn Cau. Rhoddodd y Llys y gorchymyn am gyfnod o dri mis gan ddyfarnu costau o £1,860 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Meddai’r Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio Conwy:

“Rydym yn ymroddedig i sicrhau diogelwch ein cymuned a chynnal amgylchedd masnachu teg a chyfartal.

“Mae’r busnesau sydd yn cyflenwi tybaco a fêps anghyfreithlon yn niweidio busnesau lleol cyfreithlon ac nid oes croeso iddynt yng Nghonwy.  Mae’r neges i unrhyw un sy’n gweithredu, yn bwriadu gweithredu, neu’n gwybod eu bod yn gosod eiddo i fusnes o’r fath yn glir: byddwn yn defnyddio grym llawn y gyfraith i roi terfyn ar weithgarwch anghyfreithlon ac i gau’r busnesau hyn i lawr.

“Hoffwn ddiolch i swyddogion Safonau Masnach y Cyngor a’r timau TCC am eu hymroddiad a’u hymrwymiad hefyd. Heb eu hymdrechion, byddai’r busnes hwn wedi parhau i werthu tybaco a fêps anghyfreithlon. Mae’r neges yn glir: ddim yng Nghonwy.”

Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns y bydd plant yn dod yn gaeth iddynt am oes.  Gall fêps a chynnyrch tybaco anghyfreithlon gynnwys lefelau nicotin sy’n uwch na’r terfynau cyfreithlon, yn ogystal â sylweddau heb eu rheoleiddio a allai fod yn beryglus, sy’n peri risgiau iechyd difrifol i ddefnyddwyr.

I gael gwybodaeth am werthu tybaco anghyfreithlon, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Conwy ar safonau.masnach@conwy.gov.uk.

I roi gwybod yn ddienw os ydych chi’n amau gweithgarwch troseddol, cysylltwch â Crimestoppers.

Wedi ei bostio ar 30/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content