Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Adnewyddu canolfan deuluoedd er mwyn helpu mwy o bobl

Adnewyddu canolfan deuluoedd er mwyn helpu mwy o bobl


Summary (optional)
start content

Adnewyddu canolfan deuluoedd er mwyn helpu mwy o bobl

External 2a

Canolfan Deuluoedd Llanrwst

Bydd mwy o gymorth am ddim ar gael mewn un lle i deuluoedd ardaloedd gwledig Conwy pan fydd Canolfan Deuluoedd Llanrwst yn ailagor ar ei newydd wedd fis nesaf.

Mae'r ganolfan, sydd wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd lleol dros y ddwy flynedd ar hugain diwethaf, wedi cael ei gweddnewid, diolch i fuddsoddiad o £480,000 gan Lywodraeth Cymru. 

Bellach bydd yn bosibl darparu mwy o wasanaethau ar yr un pryd, gan arbed teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd gwledig rhag gorfod teithio pellteroedd ’nôl a blaen i’r ganolfan.

Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys clybiau babanod wythnosol a ddarperir gydag ymwelwyr iechyd, grwpiau gofalwyr ifanc, a chymorth cam-drin domestig i bobl o bob oedran.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden: "Dw i'n falch o weld y cyfleuster gwych hwn yn ailagor ar ôl cael ei weddnewid. Mae ein buddsoddiad o £480,000 yn golygu y gall y ganolfan barhau â'i gwasanaethau hanfodol, a bod cannoedd o deuluoedd yng Nghonwy bellach yn gallu manteisio ar nifer o wasanaethau mewn un lle, gan arbed amser a theithio.

"Mae ehangu ac adnewyddu'r ganolfan hon, yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u darparu yn nes at adref i gymunedau ledled Cymru."

Dywedodd y Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet Conwy dros Wasanaethau Integredig i Oedolion a Chymunedol: "Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn rhoi hwb i'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i deuluoedd yn yr ardal, a bydd yn creu mwy o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth.  Rydyn ni'n ddiolchgar am y cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, a dw i'n falch iawn y gallwn helpu i sicrhau dyfodol i’r Ganolfan a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau poblogaidd hyn drwy fuddsoddi yn yr adeilad."

Dywedodd y Cynghorydd Cathy Augustine, Aelod Cabinet Conwy dros Blant, Teuluoedd a Diogelu: "Dros y ddwy flynedd ar hugain diwethaf, mae Canolfan Deuluoedd Llanrwst wedi datblygu'n ganolfan i ddiwallu anghenion newidiol y gymuned. Felly rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein holl deuluoedd yn ôl i'r ganolfan ar ei newydd wedd, lle gallwn barhau i ddarparu amrywiaeth o gymorth hanfodol i'r gymuned."

Wedi ei bostio ar 30/05/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content