Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgyrch i adfer Vanguard II

Ymgyrch i adfer Vanguard II


Summary (optional)
start content

Ymgyrch i adfer Vanguard II

Ymgyrch i adfer Vanguard II

Ymgyrch i adfer Vanguard II

Mae llongddrylliad y Vanguard II wedi cael ei symud o'i safle wrth y Gogarth gan Dîm Harbwr Conwy a'r contractwyr achub UIMS o Abermaw.

Eglurodd Harbwrfeistr Conwy, Matt Forbes: “Gan fod nifer o dyllau yng nghragen y llong, cafodd ei arnofio gan ddefnyddio chwe bag aer mawr a'i winsio oddi ar y creigiau gan ddefnyddio llong angori'r harbwr.

“Roedd y lleoliad anghysbell yn cyflwyno heriau logistaidd, gan fod yn rhaid dod â'r holl offer i'r safle ar y môr.  Roedd angen cyfuniad o lanw uchel a thywydd tawel ar gyfer yr ymgyrch.   Roedd rhagolygon da ddydd Gwener yn golygu bod y tîm wedi gweithio'n galed drwy gydol yr wythnos i rigio'r cadwyni angenrheidiol i ddal y bagiau aer yn eu lle mewn pryd.

“Er gadael Conwy am 5am ddydd Gwener, cafodd y llongddrylliad ei rigio gyda munudau i'w sbario’n unig wrth i’r llanw godi.  Gweithiodd y plymwyr yn gwisgo siwtiau sych mewn 23 gradd i adfer bagiau aer o'r dŵr cyn eu cysylltu â'r cadwyni.

“Yna llusgwyd y llongddrylliad yn ôl i draeth yn Harbwr Conwy i'w waredu - ei fordaith olaf.” 

Talwyd am yr ymgyrch adfer gan yswirwyr y llong. 

Wedi ei bostio ar 20/07/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content