Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £2 miliwn i drawsnewid Venue Cymru

Llun: Llywodraeth Cymru
Mae canolfan adloniant a chynadledda flaenllaw Llandudno – sef y lleoliad mwyaf ond un ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru ar ôl Canolfan y Mileniwm – ar fin cael ei gwella'n sylweddol, a hynny o ganlyniad i fuddsoddiad o £2 filiwn gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Bydd yr arian yn cefnogi'r gwaith o adfywio'r lleoliad 30 oed, sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 179 o bobl ac yn croesawu dros 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gan gyfrannu £38.4 miliwn i economi'r rhanbarth.
Wedi'i ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd yr arian newydd yn galluogi gwaith adnewyddu mewnol ac allanol hanfodol.
Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn ychwanegu at y £500,000 a mwy a ddarparwyd eisoes gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn 2024–25 i gefnogi gwaith uwchraddio brys ac mae'n rhan o brosiect Dyfodol Venue Cymru ehangach, sef menter gydweithredol sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
"Mae Venue Cymru yn rhan annatod o fywyd diwylliannol Gogledd Cymru ac yn rhoi hwb hanfodol i economi Llandudno. Mae'r arian hwn yn arwydd o'n hymrwymiad i roi bywyd newydd i'n trefi, gan greu mannau y mae pobl eisiau byw ynddyn nhw, gweithio ynddyn nhw, ac ymweld â nhw.
"Trwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi, rydyn ni'n buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau ac yn sicrhau bod lleoliadau eiconig fel Venue Cymru yn parhau i ffynnu."
Dywedodd Sarah Ecob, Pennaeth Gwasanaeth yr Economi a Diwylliant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn yr arian hwn yn rhan o'r rhaglen Trawsnewid Trefi.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn nyfodol diwylliannol ein rhanbarth yn dod â buddion parhaol i gymunedau yn Sir Conwy a thu hwnt am flynyddoedd lawer i ddod. Rydyn ni i gyd yn hynod gyffrous am y prosiect ac yn edrych ymlaen yn frwd at ddechrau arno.
Llun (o'r chwith i'r dde):
Steve Cridge, Rheolwr Technegol a Chyfleusterau; Elen Edwards, Pennaeth - Datblygiad Economaidd; Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai; y Cyng Mike Priestley, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Amanda Hughes, Cyfarwyddwr Strategol Cyllid ac Adnoddau; Sarah Ecob, Pennaeth - Economi & Diwylliant.
Wedi ei bostio ar 15/10/2025