Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Tân gwyllt - Datganiad

Tân gwyllt - Datganiad


Summary (optional)
start content

Tân gwyllt - Datganiad

Conwy CBC Logo RGB

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau partner

Datganiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

Hoffem ddatgan ein diolch i gydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru am eu hymrwymiad parhaus ac ymdrechion diflino wrth ymateb i’r tân gwyllt ym Mwlch Sychnant.

Mae’r digwyddiad yn parhau ac yn cael ei reoli drwy ymateb aml-asiantaeth cydlynol, sy’n cynnwys y gwasanaethau brys a sefydliadau partner, yn cydweithio i gadw cymunedau lleol yn ddiogel.

Mae’r Cyngor yn cefnogi trigolion sydd wedi gorfod symud o’u cartrefi. Er bod rhai teuluoedd wedi gallu aros gyda pherthnasau neu ffrindiau, rydym wedi trefnu llety ar gyfer nifer o aelwydydd ac yn parhau i ddarparu cymorth lle bod angen.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y rhai a effeithir yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod hwn, ac mae staff ar gael yn ein canolfan orffwys yng Nghanolfan Fusnes Conwy.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau partner a chynnig cymorth i drigolion hyd nes bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn nodi ei bod yn ddiogel i bobl ddychwelyd i’w cartrefi.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: Diweddariad Digwyddiadau - Newyddion - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

 

Wedi ei bostio ar 13/07/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content