Pobl Ifanc yn Ffynnu Trwy Lwyddiant y Rhaglen GROW yng Nghonwy

Rhai o gyfranogwyr Rhaglen GROW, ynghyd â’u tiwtoriaid a staff o Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy.
Mae menter newydd drawsnewidiol wedi helpu pobl ifanc ar draws Sir Conwy i fagu hyder, datblygu sgiliau gwerthfawr a chymryd camau cyffrous tuag at y byd gwaith.
Mae rhaglen GROW (Paratoi ar gyfer Cyfleoedd yn y Gwaith) Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, sy’n cael ei darparu dros chwe wythnos yn Den Ieuenctid Abergele, yn cynnig sesiynau hyfforddi byr, bachog a phwrpasol ddwywaith yr wythnos – ac i’r 12 sy’n cymryd rhan, mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn barod.
Gyda chyllid wedi’i sicrhau gan Gronfa Pobl a Sgiliau Conwy o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, roedd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn gallu gweithio mewn partneriaeth â Gweithredu yn y Gymuned Abergele a The Little Learning Company er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc gwblhau dyfarniadau achrededig i weithio yn y sectorau Manwerthu, Lletygarwch a Gofal Plant, yn cynnwys Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cymorth Cyntaf Paediatrig, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Hylendid Bwyd ac Ymwybyddiaeth Alergenau.
Mae’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain, gyda dros 70 o achrediadau wedi’u cyflawni ar draws y grŵp, gyda’r holl gyfranogwyr yn rhoi sgôr o 10/10 i’r cwrs ar eu ffurflenni adborth. Mae’r rhaglen eisoes wedi cael effaith ar eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol gyda 4 yn mynd yn syth i gyflogaeth, 7 o’r cyfranogwyr yn cael eu cyfeirio at fentoriaid y Canolbwynt am gymorth swyddi parhaus ac mae lleoliadau gwaith wedi’u trefnu i rai ohonynt i’w helpu i gael profiad a rhoi hwb i’w CVs.
Dywedodd Blue Douglas, Uwch Weithiwr Ieuenctid yn Den Ieuenctid Gweithredu yn y Gymuned Abergele; “Mae’r rhaglen GROW wedi rhoi ardystiad ystyrlon, haeddiannol a hanfodol i bobl ifanc i’w helpu gyda chymryd eu camau cyntaf tuag at ddod o hyd i gyflogaeth. Bu i’n pobl ifanc ymuno â ni yn teimlo’n eithaf digalon a heb gyfeiriad clir i’w bywydau gwaith ac mae eu trawsnewidiad wedi bod yn amlwg. Rydym yn falch iawn o fod wedi cyfrannu tuag at y dyfodol y maent yn ei haeddu.”
Bu i’r cyfranogwyr ganmol y rhaglen am ei staff cefnogol, ei chynnwys diddorol, ac am yr hyder y mae wedi’i roi iddynt er mwyn symud ymlaen mewn bywyd. Dywedodd un unigolyn ifanc (Cam, 17), “Mae wedi fy nghael i allan o’r tŷ i gyfarfod pobl newydd a chymdeithasu, yn ogystal â rhoi cymwysterau newydd i mi er mwyn i mi allu symud ymlaen i’r byd gwaith”, a dywedodd Beth sy’n 19 oed “Mae gen i fwy o sgiliau rŵan. Rwy’n teimlo fy mod wedi tyfu fel unigolyn ac rwyf wedi camu allan o fy man cyfforddus, deg allan o ddeg a phump uchel!”
Mae rhai o’r cyfranogwyr yn byw ar eu pen eu hunain mewn llety i’r digartref ac i gydnabod eu cyraeddiadau, cafodd Dave Nice, Gweithiwr Prosiect Digartrefedd Ieuenctid ar gyfer Prosiect y Dderwen, wahoddiad i’r digwyddiad cyflwyno tystysgrifau a bu iddo ganmol yr holl gyfranogwyr, “Weithiau mewn bywyd mae’n hawdd edrych ar bobl a chymryd fod pawb yn gweld yr un pethau’n hawdd a’r un pethau’n anodd, ond nid fel yna mae’r byd. I rai, mae codi yn y bore, gadael y tŷ neu hyd yn oed cymdeithasu sylfaenol yn gallu bod yn annioddefol o anodd. Roedd gan y garfan hon eu hanawsterau eu hunain i’w goresgyn ac roedd yn cymryd dewrder a phenderfyniad ganddynt i droi fyny wythnos ar ôl wythnos, felly rwy’n falch iawn o’u cyraeddiadau ac rwy’n gobeithio bod hyn wedi gwneud iddynt sylweddoli os ydynt yn gallu gwneud hyn, gallant wneud unrhyw beth.”
Gan wneud sylw am lwyddiant y rhaglen, dywedodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, “Mae’r rhaglen GROW wedi gweddnewid bywydau’r bobl ifanc hyn ac mae’r effaith wedi bod yn anhygoel. Mae wedi agor drysau i’r rhai sy’n barod i gymryd y cam nesaf ar eu siwrnai - p’un a bod hynny i hyfforddiant neu gyflogaeth a gan fod pawb yn magu hyder, sgiliau a chyfleoedd go iawn mae hefyd wedi darparu ymdeimlad o gyrhaeddiad ac optimistiaeth sy’n eu helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Pip Cockeram, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ar 01492 576280 neu pip.cockeram@conwy.gov.uk.
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn “siop un alwad” i’r gymuned sy’n helpu pobl Conwy i wella eu sgiliau, dod o hyd i waith, ennill profiad gwaith a gwirfoddoli. Mae’n rhedeg rhaglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru ac mae wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan ffrydiau eraill er mwyn gallu cefnogi holl breswylwyr Conwy sy’n 16 oed a hŷn i ganfod cyflogaeth ystyrlon. Ewch i https://www.conwy.gov.uk/cy/Council/Jobs-and-Careers/Help-Getting-Into-Work/conwy-employment-hub.aspx i gael mwy o wybodaeth am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy.
Mae Gweithredu yn y Gymuned Abergele yn sefydliad gwirfoddol ac elusen Gofrestredig sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol yn Abergele a thu hwnt yn cynnwys Den Ieuenctid Abergele sy’n ymyrraeth sy’n seiliedig ar y gymuned sydd wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 10 a 25 oed sydd wedi, neu sydd mewn perygl o gael, eu heithrio o gyfleoedd cymdeithasol, economaidd, addysgol a digidol prif ffrwd.
Mae Prosiect y Dderwen yn rhan o Wasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n rhoi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc o ran dewisiadau tai.
Wedi ei bostio ar 30/05/2025