Yn fuan, bydd gofyn i bob busnes sydd wedi derbyn Grantiau Busnes mewn perthynas â Chronfa Cadernid Economaidd 1, 2, Cynllun Benthyciad Busnes Cymru a Grant Busnesau Newydd, gymryd rhan mewn arolwg ar-lein er mwyn canfod effaith y grant ac i asesu i ba raddau y mae wedi bod o gymorth â goroesiad y busnes a rhagolygon adferiad y busnes. Ar gyfer sefydliadau mwy, bydd y cwmni ymchwil yn cysylltu â hwy dros y ffôn yn unig.
Opinion Research Services (ORS) fydd yn cynnal y gwerthusiad. Bydd rhai busnesau a dderbyniodd grant drwy Gronfa Cadernid Economaidd 1 yn derbyn e-bost yn uniongyrchol gan Gov Delivery ac ni fyddant yn derbyn galwad ffôn. Yn ddibynnol ar gyfraddau ymateb, bydd yr arolwg ar gael i’w llenwi am oddeutu pedair i chwe wythnos. Gweler y ddolen isod i wefan Busnes Cymru sydd yn rhoi eglurhad manylach o’r arolwg:
Gwerthusiad o gymorth sy'n gysylltiedig â COVID-19 i fusnesau Cymru | Busnes Cymru (gov.wales)