Dros yr wythnosau nesaf, bydd tîm TG y Cyngor yn gwneud rhai newidiadau hanfodol i'r systemau TG wrth i ni symud gwasanaethau a staff i swyddfeydd Coed Pella.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i osgoi unrhyw effaith, ond efallai y bydd adegau pan fydd ein systemau gwefan, ffôn neu e-bost yn cael eu heffeithio. Pe baech yn cael problem wrth geisio cysylltu â ni, rhowch gynnig arall arni mewn ychydig funudau neu ddefnyddio dull arall o gysylltu gyda ni.
Diolch i chi am eich amynedd.
Gwasanaeth TGCh a Thrawsnewid Digidol