****Y diweddaraf ynglŷn â’r problemau teleffoni***
Yn gynharach heddiw nodwyd problem mewn cyfnewidfa a oedd yn achosi'r toriad i'n gwasanaeth, ac mae ein Darparwr Teleffoni wedi gosod datrysiad dros dro drwy gyfeirio ein holl alwadau drwy gyfnewidfeydd eraill. Tua 11.30 roeddem yn gweld galwadau’n dechrau dod yn ôl i’r drefn arferol.
Tra rydym yn parhau i weithio o dan ddatrysiad dros dro, mae’n rhaid i ni ystyried o hyd fod y gwasanaeth mewn cyflwr sy’n ‘wynebu risg’ ac felly nid ydym wedi datgan eto fod y mater wedi ei ddatrys. Ond gan ein bod wedi gweld peth sefydlogrwydd yn y gwasanaeth am 4 awr a mwy rydym yn obeithiol y bydd hyn yn parhau.
Rydym yn parhau i fonitro a gweithio gyda'n darparwr gwasanaeth teleffoni a byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion cyn gynted ag y gallwn.
Unwaith eto ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra neu unrhyw ddirywiad yn y profiad o ran y gwasanaeth i gwsmeriaid o ganlyniad i'r nam hwn.
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn cysylltu â ni ar y ffôn, gallwch gysylltu â ni Ar-lein.