Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Argyfwng Wcráin


Summary (optional)
start content

Rydym yn gwybod bod pobl Conwy yn awyddus i helpu

Llinell Gymorth Bwrpasol i’r Rhai sy’n Cyrraedd a Noddwyr

Mae llinell gymorth bwrpasol i bobl sy’n cyrraedd Cymru o’r Wcráin ac i bobl sy’n gweithredu fel noddwyr i roi cyngor ac arweiniad wedi’i sefydlu.

I alwyr yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508.
I alwyr y tu allan i’r DU, y rhif yw: +44 20 4542 5671.

Mae’r llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Cartrefi i Wcráin: canllawiau i noddwyr | LLYW.CYMRU

I gael gwybodaeth cliciwch ar y dolenni isod:

Yn y cyfamser, os oes gennych enw unigolyn penodol rydych yn dymuno ei noddi, ewch i: https://homesforukraine.campaign.gov.uk/

Os nad ydych yn adnabod neb i’w noddi, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn cynnig llety, mae mwy yn: https://www.gov.uk/guidance/homes-for-ukraine-scheme-frequently-asked-questions

Gallwch hefyd anfon e-bost at ukrainesupport@conwy.gov.uk



FAQs

C: Sut gall pobl Wcráin ddod i’r Deyrnas Unedig?

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau gynllun i helpu pobl i ddod i’r DU os ydynt yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin – y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, i bol sydd â chysylltiadau teuluol, a’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ar gyfer y rheini sydd heb gysylltiadau teuluol yn y DU.

C: Sut gall unigolion helpu pobl yn Wcráin?

Gall pobl helpu drwy nifer o ffyrdd.

Mae llawer o’r llwybrau teithio ar gau a’r sustemau cludiant dan bwysau mawr, felly gallai anfon nwyddau ychwanegu at yr anawsterau ar lawr gwlad. Ond gyda rhoddion ariannol, bydd y sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn gallu cael gafael ar y nwyddau brys yn lleol. Dylai unrhyw un sy’n gallu helpu ystyried gwneud rhodd ariannol i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Gall pobl yng Nghymru gofrestru gyda’r cynllun Cartrefi i Wcráin, cynnig dod yn noddwr a chynnig lle yn eu cartref i rywun sy’n dianc rhag y rhyfel yn Wcráin fyw am o leiaf chwe mis. Bydd pobl sy’n cofrestru ar y cynllun drwy wefan Cartrefi i Wcráin yn  gallu cael eu paru gyda phobl sy’n ffoi o Wcráin ac yn dymuno dod i’r DU. Cawsom ein rhyfeddu gan garedigrwydd pobl Cymru hyd yn hyn – mae miloedd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun i gynnig bod yn noddwyr.

Mae angen pethau fel:

  • llety ar raddfa fawr i ffoaduriaid a'u teuluoedd, fel gwestai a pharciau gwyliau
  • cludiant, fel coetsis a bysiau mini (efallai na fydd angen i chi ddarparu gyrwyr), i fynd â phobl i'w cartrefi newydd
  • cyflenwadau fel dillad, pethau ymolchi ac eitemau ar gyfer y mislif
  • gwersi iaith
  • cyflogaeth a hyfforddiant
  • cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd

Dilynwch y ddolen hon i gofrestru cynnig i helpu: Cofrestrwch fusnes neu sefydliad i helpu ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i Gymru | LLYW.CYMRU

C: Ydy Llywodraeth Cymru’n rhedeg cynllun noddi ar wahân?

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Byddwn ni’n uwch-noddwyr i’r cynllun hwnnw. Golyga hynny y byddwn yn noddi hyd at 1,000 o bobl o Wcráin yn ystod y cam cyntaf ond gallem dderbyn rhagor o bobl.

I ddechrau, bydd y bobl sy’n dod atom drwy’r trefniadau uwch-noddwr yn cael dod i un o’n canolfannau croeso, sy’n cael eu creu ledled Cymru. Oddi yno, cânt fynd i lety tymor-canolig neu fwy hirdymor. Bydd gwasanaethau cymorth ar gael i’r bobl sy’n cyrraedd Cymru – gan gynnwys iechyd, cwnsela a gwasanaethau arbenigol eraill.

Rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r trydydd sector i gefnogi’r bobl sy’n cyrraedd drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Rydym yn awyddus i wneud popeth y gallwn i warchod pobl Wcráin rhag ymyrraeth ddi-angen a lleihau eu gofid wrth iddynt gyrraedd Cymru. Rydym wedi gofyn i sefydliadau a’r cyfryngau beidio â datgelu lleoliad y canolfannau croeso a sefydlwyd gennym gyda chymorth mudiadau eraill.

Mae Cymru’n Genedl Noddfa. Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb sy’n dod yma o Wcráin

C: Pryd fydd Cartefi i Wcráin yn dechrau?

Dechreuodd y cynllun Cartrefi i Wcráin ar 18 Mawrth. Bydd Llywodraeth Cymru’n dod yn uwch-noddwr o 26 Mawrth ymlaen.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content