BYDD Y TOCYNNAU YN MYND AR WERTH AM 10AM DYDD GWENER 11 MAWRTHwww.venuecymru.co.uk 01492 872000
Yn dilyn llwyddiant eu halbwm diweddaraf Blue Eyed Soul, sydd wedi cyrraedd y 10 uchaf yn y siartiau, mae’r anfarwolion pop a chanu’r enaid wedi cyhoeddi sioe arbennig yng ngogledd Cymru ar 14 Awst.
Meddai Mick Hucknall am ddychwelyd i’r llwyfan yn yr haf:
“Dw i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m mywyd yn mynd allan a chanu i bobl, felly roedd hi’n rhyfedd peidio â gallu gwneud hynny y llynedd a’r flwyddyn gynt. Dw i wedi gweld eisiau mynegi fy hun. Mae’n hynod ysbrydoledig bod pobl yn gallu mynd i weld bandiau unwaith eto. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn.”
Mae Simply Red wedi gwerthu dros 60 miliwn o albymau ar hyd a lled y byd – gyda 5 ohonynt wedi cyrraedd brig y siartiau yn y DU. Ar ben hynny mae eu fideos wedi’u gwylio dros biliwn o weithiau ar YouTube.
Eu clasur Stars yn 1991 oedd yr albwm a werthwyd orau am ddwy flynedd yn olynol ym Mhrydain ac Ewrop. Maen nhw wedi cyrraedd brig ‘Billboard’ yr UDA gyda Holding Back The Years ac If You Don’t Know Me By Now.
Meddai Pablo Janczur o Orchard Live: “Rydym ni wrth ein bodd bod Simply Red yn dod i Fae Colwyn. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn ond bydd cael dod allan i weld un o artistiaid gorau’r DU ar noson braf o haf yn canu ein hoff ganeuon yn brofiad gwych. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn.”
Archebwch ar-lein ar: https://www.venuecymru.co.uk/cy/simply-red
Telerau ac Amodau: https://www.venuecymru.co.uk/cy/node/7092
