Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sut i gwyno


Summary (optional)
Gallwch gyflwyno cwynion mewn y ffordd sy'n addas i chi, llythyr, e-bost, ar-lein neu dros y ffôn.
start content

Os ydych yn anfodlon gyda'r gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gallwch gwyno i unrhyw aelod o’n staff.

Siaradwch â'r bobl gysylltiedig yn gyntaf.  Er enghraifft, os yw'r gŵyn am gyfleuster cyhoeddus fel theatr neu ganolfan hamdden, gofynnwch am gael siarad â'r goruchwyliwr neu'r rheolwr ar ddyletswydd. Fel arfer bydd yr unigolyn rydych yn siarad ag ef/hi yn gallu datrys eich cwyn yn rhwydd ac ni fydd angen i chi gymryd camau pellach.

Neu gallwch lenwi'r ffurflen cwynion ar-lein

Neu, gallwch gysylltu â:

Uned Gwynion,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

Rhif Ffôn: 01492 576070 (bydd galwadau i'r rhif hwn yn cael eu recordio)
E-bost: cwynion@conwy.gov.uk

 

Nodwch: Nid yw pob cwyn yn addas i gael eu datrys drwy ein polisi cwynion.  Darllenwch y rhestr wirio isod cyn cyflwyno eich cwyn.

Eich ProblemBeth ddylech chi ei wneud?

Adrodd problem

Siarad â’r gwasanaeth perthnasol

Rhywbeth lle mae gennych hawl i apelio

Dilyn y broses apelio

Pryderon am sefydliadau eraill e.e. y GIG, yr Heddlu, Cyngor Tref neu Gymuned

Cyfeirio at y corff cywir

1) Pryder ynglŷn ag ymddygiad Cynghorydd,

Cyfeirio at yr Ombwdsmon yn:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ.

neu

 

2) Anfodlonrwydd gyda chanlyniad ein proses gwyno fewnol ar ddiwedd cam 2

e-bost: holwch@ombwdsmon-cymru.org.uk
Gwe: www.ombwdsmon-cymru.org.uk
Ffôn: 0300 790 0203

Cwynion am y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyfeirio at Swyddog Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol:

Swyddog Cwynion Statudol
Gwasanaethau Cymdeithasol
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Ffôn: 01492 574078
e-mail cwynion.gwasanaethau.cymdeithasol.conwy@conwy.gov.uk

Materion yn ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data

Cyfeirio at yr Uned Llywodraethu Gwybodaeth:
Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb,
Conwy
LL32 8DU
Ffôn: 01492 576070
e-bost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk

Pryderon ynglŷn ag ysgol

Cyfeirio at yr ysgol ei hun

Pryderon yn ymwneud â sefydliad allanol lle mae Swyddog neu Aelod o'r Cyngor yn cynrychioli'r Cyngor

Cyfeirio at y sefydliad ei hun

Pryderon yn ymwneud â mater pan fo camau cyfreithiol yn cael eu dilyn ar hyn o bryd

Aros nes i’r camau cyfreithiol gael eu cwblhau

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content