Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Cyber Essentials certification Ardystiad Cyber Essentials

Ardystiad Cyber Essentials


Summary (optional)
Mae’r Tîm TG a Thrawsnewid Digidol yn falch o gyhoeddi, yn dilyn asesiad diweddar o’n seilwaith a’n systemau TG, bod y Cyngor wedi derbyn ardystiad Cyber Essentials, cynllun a gefnogir gan y llywodraeth ar gyfer trefniadau TG corfforaethol ac mewn ysgolion.
start content

Mae cynllun Cyber Essentials yn nodi rheolaethau diogelwch TG hanfodol y mae’n rhaid i sefydliadau eu cael er mwyn amddiffyn ei hun rhag bygythiadau ar y rhyngrwyd. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i seiberddiogelwch.

Er bod gan y Cyngor y rheolaethau angenrheidiol yn eu lle ers peth amser ac eisoes wedi mabwysiadu mesurau diogelwch gwell ac yn eu profi pan fo’n briodol, mae’r ardystiad hwn yn rhoi sicrwydd i ddinasyddion, busnesau, aelodau etholedig, swyddogion a sefydliadau partner bod systemau a data’r Cyngor wedi eu diogelu rhag y bygythiadau rhyngrwyd mwyaf cyffredin fel hacio, gwe-rwydo a dyfalu cyfrineiriau. Mae’r cynllun yn helpu sefydliadau ddiogelu cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd data a gedwir ar ddyfeisiau sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd.

logo Cyber Essentials

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content