Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Disgowntiau i Aelodau'r Lluoedd Arfog


Summary (optional)
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithredu deddfwriaeth ers 1 Ebrill 2010 sy'n golygu fod aelodau'r lluoedd arfog, y mae'n rhaid iddynt fyw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn cyflawni'u dyletswyddau, bellach yn cael eu diffinio fel gweithwyr gyda llety'n gysylltiedig â'u cyflogaeth.
start slider

end slider
start grid

Os oes gan y bobl hynny ail gartref yng Nghymru y maent yn gorfod talu Treth y Cyngor arno, mae'r awdurdod bilio ar gyfer yr ardal honno, y mae'r ail gartref ynddi, yn cael ei atal rhag gostwng y disgownt ar yr annedd honno o 50%.

Dylai unrhyw un sy'n talu Treth y Cyngor sydd yn credu eu bod yn gymwys i dderbyn y disgownt hwn, gysylltu â Swyddfa Treth y Cyngor:

 

PO Box 1
Conwy
LL30 9GN

Ffôn: 01492 576607

E-bost: ymholiadau.trethycyngor@conwy.gov.uk




start grid

end grid

start grid-more

end grid-more
end grid