Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llwybr Teithio Llesol: Marl Lane a'r A470

Llwybr Teithio Llesol: Marl Lane a'r A470


Summary (optional)
start content

Llwybr Teithio Llesol: Marl Lane a'r A470

Gwaith yn dechrau: 8 Ionawr 2024 
Gwaith yn dod i ben: 30 Mawrth 2024 (yn dibynnu ar y tywydd)

Rydym yn falch iawn o’ch hysbysu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i’r Cyngor i wella’r llwybr i gerddwyr a beicwyr ar Marl Lane sydd wrth ochr yr A470 ac yn cysylltu â Narrow Lane.   

Beth sy’n digwydd? 
Byddwn yn adeiladu cysylltiadau newydd ar gyfer y llwybr i feicwyr a cherddwyr ar hyd Marl Lane, yr A470 a Narrow Lane. Bydd y rhain yn cysylltu ag ardal Nant y Glyn ac yn cynnwys dwy groesfan dwcan ar yr A470. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys gosod goleuadau stryd newydd.

A fydd hyn yn effeithio ar draffig a cherddwyr? 
Bydd goleuadau traffig dros dro ar Marl Lane a’r A470 pan fyddwn yn ymgymryd â’r gwaith. 
Mae’n bosibl y bydd mynediad yn cael ei gyfyngu ar brydiau i gerddwyd sy'n defnyddio'r llwybrau troed ar hyd Marl Lane a Nant y Glyn - byddwn yn ceisio peidio â tharfu gormod.     

Beth yw Teithio Llesol?  
Mae’n ofynnol yn ôl Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 bod cynghorau yn gwella llwybrau teithio llesol i annog cerdded a beicio teithiau byr bob dydd, yn hytrach na theithio mewn car. 
Am ragor o wybodaeth am Deithio Llesol yng Nghonwy, ewch i’n tudalen Teithio Llesol ar ein gwefan www.conwy.gov.uk/teithiollesol

Cwestiynau? 
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Cynghori ar: affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith gwella hwn.

Wedi ei bostio ar 02/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content