Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dyfarnu contract Cartref Plant

Dyfarnu contract Cartref Plant


Summary (optional)
start content

Dyfarnu contract Cartref Plant

Dyfarnwyd y contract i adeiladu Cartref Plant newydd yn Glan yr Afon ym Mochdre i MPH Construction.

Bu i Gabinet Conwy ystyried yr adroddiad gwerthuso tendr ar 14 Tachwedd, a chytunwyd i ddyfarnu’r contract i MPH Construction.

Mae’r cartref blaenorol ar y safle wedi ei ddymchwel a’r cynllun yw adeiladu cartref modern addas i’r pwrpas newydd, sy’n unol â deddfwriaeth gyfredol, ar gyfer defnydd parhaus gan y gwasanaethau cymdeithasol fel cartref plant. 

Dywedodd y Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu, “Mae’n braf gweld y prosiect hwn yn symud ymlaen. Mae’r effaith gadarnhaol ar fywydau plant yn sir Conwy yn greiddiol i Glan yr Afon. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu pawb i gefnogi pobl ifanc lleol trwy ddarparu gwasanaeth gofal yn eu cymuned.”

Mae hwn yn brosiect Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ariennir gan gyllid cyfalaf HCF Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosesau cyfreithiol bellach wedi eu cwblhau ac mae’r contract wedi ei ddyfarnu.

Bydd MPH Construction yn symud i’r safle yn yr wythnosau nesaf a disgwylir i’r gwaith i adeiladu Glan yr Afon gymryd tua 12 mis.

 

 

Wedi ei bostio ar 01/12/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content