Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canolfan Tennis Bae Colwyn yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu

Canolfan Tennis Bae Colwyn yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu


Summary (optional)
start content

Canolfan Tennis Bae Colwyn yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu

Mae Canolfan Tennis James Alexander Barr ym Mae Bae Colwyn wedi dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu gyda diwrnod arbennig o dwrnameintiau dwbl.

Bu i’r ganolfan Ffit Conwy hynod boblogaidd sydd ym Mharc Eirias yn y dref agor ei drysau yn swyddogol i selogion tennis brwd ar 18 Hydref 2003.

Gyda dau gwrt dan do a phedwar cwrt awyr agored wedi eu goleuo, bu miloedd o sesiynau hyfforddi a thwrnameintiau yno, yn ogystal â llogi preifat a chlybiau gwyliau.

I nodi 20 mlynedd, bu i’r Ganolfan, a enwyd er cof am swyddog chwaraeon a hamdden yng Nghyngor Bwrdeistref Colwyn, gynnal bore o dwrnameintiau dwbl Tennis Fast4 i’w aelodau ar ddydd Sul 22 Hydref.

Bu 16 o aelodau yn chwarae gemau un ar ôl y llall, gyda gwobrau’n cael eu cyflwyno wedi hynny. Enillwyr y prif dwrnamaint oedd Andrew Kirkham ac Evelyn Kirkham ac yn ail roedd Adam Gorst a Hannah Kennedy. Cyflwynwyd tlws y Plât i’r enillwyr Aled Roberts a Tania Dupre a’r ail yn y gystadleuaeth Leon Davies a Mena Hitchings.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae Cyngor Conwy yn falch o’r hyn mae Canolfan Tennis James Alexander Barr wedi ei gyflawni dros y 20 mlynedd ddiwethaf o ran datblygu tennis yn y rhanbarth.

“Mae’r cyfleusterau yn y ganolfan yn wych i holl ddefnyddwyr a galluoedd; p’un ai eu bod yn bobl ifanc sy’n codi raced am y tro cyntaf ac yn rhoi cynnig arni, neu’n selogion tennis brwd.  Mae’n amcan pwysig i ni fel Cyngor ein bod yn darparu cyfleoedd chwaraeon ar bob lefel ac yn annog pobl i gadw’n heini.” 

Dywedodd Rheolwr Ardal Ffit Conwy, Neil Williams: “Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddathlu! Mae gennym ganolfan wych yn Eirias sy’n hygyrch i bob oedran a gallu. Yn ddelfrydol i’r rhai sydd eisiau dechrau chwarae tennis neu’r rhai sydd eisiau gwella eu gêm.”

Ar ôl y gemau, bu i’r Cynghorydd Abdul Khan, aelod o’r clwb ac Aelod Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Ward Glyn Bae Colwyn, gyflwyno medalau a thlysau i’r enillwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Abdul Khan: “Mae’n bleser gweld pawb yn mwynhau bore gwych o chwarae tennis i ddathlu’r pen-blwydd.  Da iawn bawb a gymerodd ran yn y dathliadau. Edrychwn ymlaen at ddyfodol y ganolfan, gan groesawu pawb i ddod i chwarae chwaraeon raced.”

Mae cyfleusterau’r ganolfan ar agor i’r cyhoedd, a gellir archebu sesiynau ‘Talu a Chwarae’ tennis neu fadminton trwy gydol yr wythnos.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Tennis James Alexander Barr ewch i: www.ffitconwy.co.uk

Wedi ei bostio ar 25/10/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content