Cronfa Cydlyniant Cymunedol ar agor ar gyfer ceisiadau
Mae gan Gronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru gyfle i fudiadau wneud cais am gyllid rhwng £500 a £5,000 i sicrhau bod elfennau o Gydlyniant Cymunedol yn cael eu gwreiddio ym mhob cymuned.
Croesewir ceisiadau am ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chymunedau at ei gilydd gan sefydliadau yng Nghonwy, Ynys Môn neu Wynedd.
Bydd y gronfa yn cael ei gweinyddu gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y grant cysylltwch â’r Tîm Cydlyniant Cymunedol ar cydlyniadcymunedol@ynysmon.gov.uk neu ffoniwch 01248 752186.
Mae mwy o wybodaeth a’r ffurflen gais ar gael ar-lein yn: Cronfa Cydlyniant Cymunedol 2023-2024
Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u cwblhau drwy e-bost at: cydlyniadcymunedol@ynysmon.gov.uk erbyn hanner dydd, dydd Mercher 10 Mai 2023 fan bellaf.
Wedi ei bostio ar 13/04/2023