Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ffair Swyddi Conwy 2024

Ffair Swyddi Conwy 2024


Summary (optional)
start content

Ffair Swyddi Conwy 2024

Mae digwyddiad cyflogaeth a hyfforddiant mwyaf blaenllaw Gogledd Cymru yn ôl ac yn fwy nag erioed o’r blaen. 

Anogir busnesau, sefydliadau sgiliau, addysgwyr, elusennau ac unigolion sy’n dymuno arddangos yn Ffair Swyddi Conwy eleni sicrhau eu lle yn fuan!

Bydd yr arddangosfa am ddim yn cael ei chynnal unwaith eto yng Nghanolfan Ddigwyddiadau Eirias ym Mae Colwyn ac yn dilyn llwyddiant y Gwanwyn diwethaf - pan oedd hyd at 500 o fyfyrwyr ysgolion a cholegau yn bresennol - mae wedi’i agor i bobl o bob oed. 

Mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a chefnogaeth Creu Menter, Cymorth i Fusnesau Conwy a Chymru’n Gweithio, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, bydd y Ffair Swyddi’n cael ei chynnal ddydd Iau, 22 Chwefror rhwng 1pm - 5pm. 

Mae Libby Duo, Rheolwr Strategol, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn gobeithio gweld hyd yn oed mwy o sefydliadau yn y lleoliad yn 2023, pan oedd dros 80 wedi cofrestru. 

“Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol iawn hyd yma ac mae lleoedd yn llenwi’n gyflym,” meddai.

“Yn ogystal â disgyblion o ysgolion ar draws y rhanbarth - llawer ohonynt heb benderfynu ar eu gyrfa yn y dyfodol - bydd hwn yn gyfle i bobl mewn swyddi sy’n chwilio am gyfeiriad newydd, neu unrhyw un sy’n chwilio am waith, i archwilio pa gyfleoedd sydd yna mewn amryw ddiwydiannau.”

Bydd yr Ysgubor yng Nghanolfan Ddigwyddiadau Eirias yn cael ei rannu’n adrannau ar gyfer arddangoswyr, addysg a hyfforddiant ac arddangosfeydd. 

Ychwanegodd Jane Cook, Rheolwr Cyflogaeth a Phartneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau Conwy: “Mae’r Ffair Swyddi ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dechrau newydd neu sy’n edrych ar gymryd y cam nesaf yn eu bywyd addysg neu waith.

“Bydd y digwyddiad hwn yn dod â rhai o brif sefydliadau a busnesau’r rhanbarth o dan un to - yn ogystal â chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus - a darparu platfform iddynt ddenu gweithwyr y dyfodol. 

“Mae hefyd yn gyfle i rwydweithio, cynnal cyfweliadau cychwynnol a dangos pa brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddol sydd allan yn y farchnad.

Ymysg y cyflogwyr a gymerodd ran yn y  digwyddiad diwethaf roedd Adra, Undeb Rygbi Cymru, Supertemps, Mind Conwy, Becoming the Great, Parkdean Resorts, Akari Care, ALG Security, Michelle Salon, y Fyddin, Airbus, Zip World, Heddlu Gogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd dros 80% o’r sawl a holwyd yn canmol y rhaglen o weithgareddau a’r trefniadau ar y diwrnod, gan ei ddisgrifio fel “ardderchog”, “cyfle gwych i siarad â phobl ifanc”, “defnyddiol iawn” ac “un o’r digwyddiadau gyrfa gorau i ni fynychu ers amser maith.”

Ar gyfer busnesau/sefydliadau sydd â diddordeb mewn arddangos, gallwch gofrestru yn cyflogwyr@conwy.gov.uk neu gysylltu ag Alice ar 07548 845679 neu Clare ar 07892 709837. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Chwefror.

Ewch i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gael rhagor o wybodaeth am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy.

 

Wedi ei bostio ar 16/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content