Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cycle stations unveiled along Conwy coast

Gorsafoedd beicio'n cael eu dadorchuddio ar hyd arfordir Conwy


Summary (optional)
start content

Gorsafoedd beicio'n cael eu dadorchuddio ar hyd arfordir Conwy

Gall beicwyr ar hyd llwybr arfordir Sir Conwy gael help llaw wrth i orsafoedd beicio newydd gael eu gosod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae’r gorsafoedd cynnal a chadw a mannau gwefru beiciau trydan yn cael eu gosod mewn mannau allweddol ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 5, yn sgil cyllid o gyllideb teithio llesol Llywodraeth Cymru.

Mae’r gorsafoedd cyntaf ar gael i’w defnyddio ar y promenâd yn Llanfairfechan, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos a gerllaw Canolfan Ddiwylliant Conwy.

Bwriedir gosod chwech o orsafoedd a mannau gwefru eraill yn Llandudno, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Pensarn a Bae Cinmel.

Mae’r gorsafoedd cynnal a chadw’n cynnwys offer trwsio a set goriadau ‘hex’, tyrnsgriwiau, tyndro a lifrau teiars, yn ogystal â phwmp beic a mesurydd PSI. Mae’r mannau gwefru yn rhad a cam ddim i feiciau trydan - gellir cloi’r batris y tu mewn i’r blwch gwefru er mwyn diogelwch.  Mae’n cymryd 3 awr i wefru’n llawn, yn dibynnu ar faint y batri.

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Bydd y gorsafoedd yma’n helpu beicwyr wrth gymudo’n ddyddiol yn ogystal â phobl sy’n beicio er pleser. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030. Mae cefnogi teithio llesol, mwy gwyrdd yn rhan o’r ymrwymiad hwnnw.

Wedi ei bostio ar 07/12/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content