Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Y Gwasanaeth Addysg yn cael adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Y Gwasanaeth Addysg yn cael adroddiad cadarnhaol gan Estyn


Summary (optional)
start content

Y Gwasanaeth Addysg yn cael adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gael adroddiad cadarnhaol a chalonogol gan arolygwyr Estyn. 

Bu i dîm o Arolygwyr Estyn ymweld â Gwasanaeth Addysg Conwy yn Nhachwedd 2023 ac mae eu hadroddiad newydd ei gyhoeddi. 

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg a Sgiliau  Conwy: “Rwy’n falch iawn o gael yr adroddiad hwn yn dilyn asesiad trwyadl iawn gan Estyn o’n Gwasanaeth Addysg.

“Rwy’n falch fod yr Arolygwyr wedi cydnabod ein bod yn ymroddedig iawn i sicrhau addysg effeithiol i blant a phobl ifanc yng Nghonwy, a bod agwedd gadarnhaol uwch arweinwyr, aelodau etholedig a swyddogion o gymorth wrth greu gwelliant parhaus ar draws yr awdurdod lleol.

Mae’r adroddiad yn datgan:

  • bod yr awdurdod lleol yn darparu cefnogaeth gref i wella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn ei ysgolion a’i leoliadau.
  • bod yr awdurdod lleol yn gweithio’n dda gyda’r gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol i ddarparu ystod briodol o gefnogaeth gyffredinol a chefnogaeth a dargedwyd i arweinwyr a staff.
  • bod gan arweinwyr ysgolion ddealltwriaeth dda o sut i gael cefnogaeth arbenigol gan yr awdurdod lleol ac yn croesawu’r cyngor a’r arweiniad amserol mae swyddogion yn ei ddarparu.
  • bod diwylliant sefydledig ac effeithiol o weithio ar draws gwasanaethau, a ddangosir yn glir gan y gwasanaethau a gynigir yng Nghanolfannau Teuluoedd Conwy.
  • bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu ystod eang o weithgareddau buddiol i bobl ifanc.

Dywedodd Rhun ap Gareth, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn hapus i dderbyn yr adroddiad hwn a defnyddio ei ganfyddiadau i barhau ein gwaith i wella gwasanaethau yng Nghonwy. Byddwn yn paratoi cynllun i ymdrin â’r argymhellion a pharhau i weithio’n agos gydag Estyn i fonitro cynnydd.

“Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r broses arolwg ac am eu hymrwymiad parhaus i Wasanaethau Addysg yng Nghonwy.”

 

Mae 'Adroddiad ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Tachwedd 2023 wedi ei gyhoeddi ar wefan Estyn ar Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Estyn (llyw.cymru)

Wedi ei bostio ar 19/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content