Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gofalwyr maeth o Gonwy yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog

Gofalwyr maeth o Gonwy yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog


Summary (optional)
start content

Gofalwyr maeth o Gonwy yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog

Mae gofalwyr maeth o Gonwy wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog, sy'n cydnabod eu cyfraniadau eithriadol i ofal maeth.

Dyfarnwyd gwobr y Rhwydwaith Maethu ar gyfer gofalwyr maeth i Steve a Lynne, sy'n maethu gyda'u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Conwy, yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu, a noddir gan The Mortgage Brain, yn Birmingham ddydd Mawrth.

Dechreuodd Steve a Lynne faethu gyda Maethu Cymru Conwy yn 2011 a daeth yn amlwg yn gyflym iawn pa mor fedrus oeddent wrth ofalu am bobl ifanc yn eu harddegau.

Maent wedi croesawu’r holl sefyllfaoedd newydd sydd wedi dod gyda maethu, gan gynnwys cefnogi pobl ifanc yn eu haddysg i groesawu mam a babi i’w cartref.

Mae un o'r bobl ifanc oedd yn byw gyda Lynne a Steve wedi graddio o'r brifysgol yn ddiweddar. Anfonodd hi gerdyn Sul y Mamau at Lynne yn dweud ‘diolch am fod, a pharhau i fod, y Mam roeddwn i bob amser yn dymuno amdani. Fyddwn i ddim yr un person ag ydw i heddiw pe na baech chi a Steve wedi dod i mewn i fy mywyd.’

Yn ei henwebiad, dywedodd eu gweithiwr cymdeithasol Sian McBride fod Lynne a Steve ‘yn fath prin o ofalwyr maeth yn eu dealltwriaeth o bobl ifanc yn eu harddegau, y gallu i fod yn hyblyg pan fo angen, gyda gymaint o gynhesrwydd, dealltwriaeth, magwraeth a hiwmor.

Dywedodd Tesni Hadwin, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Mae Steve a Lynne yn enghraifft wych o’r hyn y mae gofal maeth yn ei olygu ac rwy’n falch iawn eu bod wedi derbyn y wobr genedlaethol hon i gydnabod yr effaith gadarnhaol y maent wedi’i chael dros y blynyddoedd i’r bobl ifanc yn eu gofal.

"Mae eu hymrwymiad, eu hegni a'u cymhelliant yn rhagorol. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am bopeth y maent wedi'i wneud, ac am bopeth y maent yn parhau i'w wneud ar gyfer plant a phobl ifanc lleol sy'n derbyn gofal yn sir Conwy."

Mae merch Steve a Lynne, Corinna, yn dweud bod bod yn rhan o deulu maethu yn rhywbeth arbennig iawn. “Rydw i mor falch o benderfyniad fy rhieni i ddod yn ofalwyr maeth ac am agor eu drysau i eraill oedd angen cartref teuluol cynnes a gofalgar.”

Ychwanegodd: “Mae maethu yn gymaint mwy na “dim ond swydd”. Mae fy rhieni yn ei wneud oherwydd eu bod yn bobl ostyngedig, ofalgar ac empathetig, gydag angerdd am ddarparu cariad a chefnogaeth i bobl ifanc mewn angen. Rwy’n teimlo mor lwcus i’w cael fel fy rhieni, ac i’r teulu mwy yr ydym bellach.”

Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yw gwobrau gofal maeth mwyaf mawreddog y DU, sy’n dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes maethu ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob dydd.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Birmingham Repertory Theatre, dan lywyddiaeth y darlledwr, y cyflwynydd teledu a’r siaradwr ysbrydoledig Ashley John Baptiste, a gafodd ei fagu mewn gofal ei hun.

Allech chi fod yn ofalwr maeth? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth awdurdod lleol a’r manteision y gall eu cynnig, ewch i maethucymru.conwy.gov.uk neu cysylltwch â 01492 576308 neu maethu@conwy.gov.uk am sgwrs heb rwymedigaeth.

Wedi ei bostio ar 23/10/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content